Ar ôl i gwmni bysiau Arriva roi terfyn ar wasanaethau yn Nyffryn Ogwen, mae amserlen newydd wedi cael ei chroesawu fel “newyddion da” gan un o gynghorwyr Gwynedd.

Mae Catrin Wager, sy’n gynghorydd ym Methesda ac yn ymgeisydd Plaid Cymru dros Arfon yn San Steffan, wedi postio’i hymateb ar Facebook ar ôl iddi fod yn ymgyrchu i gadw gwasanaethau oedd mewn perygl.

“Newyddion da,” meddai.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb gydag amserlen newydd sydd yn dangos: nifer o fysiau yn codi i 30 y diwrnod, bws i Gerlan yn ôl ymlaen ac ar yr amserlen, bws 7.52 o Gerlan i Fangor ac eglurder o ran bysiau Rachub a Charneddi.

“Does dal ddim bws i Lys y Gwynt (One Stop) ond dwi wedi ymateb yn gofyn i hynny gael ei adolygu.

“Tydw i ddim wedi clywed yn uniongyrchol gan Arriva eto, ond mae hyn yn andros o newyddion da.

“Diolch i bawb wnaeth gefnogi!”

Cefndir

Roedd cwmni bysus Arriva am roi terfyn ar nifer sylweddol o wasanaethau yn ardal Dyffryn Ogwen.

Roedd hyn am achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth mawr i lawer o bobol, gydag un ddynes leol yn dweud y byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i’w swydd pe bai hyn yn digwydd.

Roedd hi hefyd yn dweud na fyddai rhieni digartref sy’n aros yn y Travelodge lleol yn gallu cludo’u plant i’r ysgol.

“Rwy’n dibynnu ar yr un 6.25 yn y bore i One Stop, ac wedyn yr 8.40 i orsaf dân Bangor,” meddai Heather Williams o Lanllechid wrth golwg360.

“Bydd rhaid rhoi’r gorau i weithio i’r heddlu os ydi hyn yn digwydd.

“Mae llawer o bobol ddigartref yn byw yn y Travelodge, ac yn dal y bws i gludo’u plant i’r ysgol.”

Ymateb Arriva

“Mae’r llwybr wedi’i addasu i wella prydlondeb y gwasanaeth 67 ar y cyfan, gyda’r amser o beidio gweithredu i mewn i One Stop yn cael ei fuddsoddi yn amser rhedeg yr holl daith er mwyn sicrhau gweithrediad prydlon y gwasanaeth,” meddai llefarydd ar ran Arriva ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

“Nid ar chwarae bach mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud, ond rydym yn credu bod y weithred yn angenrheidiol er mwyn bod o fudd i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”