Mae rôl y teulu brenhinol yn y gymdeithas fodern yn cael ei chwestiynu mewn cyfrol newydd sy’n awgrymu y gallai Coroni’r brenin newydd fod yn ddigwyddiad “tawedog ac arwynebol”.
Daw hyn mewn llyfr newydd o’r enw Charles and the Welsh Revolt gan Arwel Vittle, yng nghanol “cyhoeddusrwydd negyddol cyson” a Choroni’r Brenin Charles ar y gorwel.
Bydd y gyfrol yn cael ei lansio heno (nos Fercher, Mai 3) yn Bar Bach, Caernarfon, gyda Mari Emlyn yn holi’r awdur.
Mae brenhiniaeth Prydain wedi’i disgrifio ganddo fel “sefydliad hynod fregus” gyda’r teulu brenhinol yn gorfod “ymladd brwydr barhaus” i “gynnal perthnasedd a dilysrwydd” y sefydliad.
Mae Arwel Vittle, sy’n hanu o Gaerfyrddin ond yn byw yng Nghaernarfon erbyn hyn, wedi ymchwilio i’r hanes a’r protestiadau yn erbyn teitl Tywysog Cymru a’r dechrau ffrwydrol i yrfa frenhinol Charles yn ystod ei arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969.
Mae hefyd yn manylu ar anawsterau dadleuol y teulu, o gysylltiadau’r Tywysog Andrew â Jeffrey Epstein i’r “agweddau hiliol” tuag at Meghan Markle, gwraig y Tywysog Harry, a sut mae cenhedloedd y Gymanwlad yn “symud ymlaen” o’r helyntion.
Gyda choroni’r Brenin newydd hefyd ar y gweill, mae’r awdur yn rhagweld y bydd unrhyw ddathliadau yng Nghymru yn “dawedog ac arwynebol a dweud y lleiaf.”
Y Gymanwlad yn newid
“Wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy’r 21ain ganrif, mae cenhedloedd y Gymanwlad yn llacio eu cysylltiadau â brenhiniaeth Prydain,” meddai Arwel Vittle yn y gyfrol.
“Daeth Barbados yn weriniaeth yn 2021… Yn fwy diweddar, yn ystod taith drychinebus William a Kate o amgylch y Caribî yn 2022, dywedodd Prif Weinidog Jamaica wrth y Tywysog William yn ei wyneb mewn darllediad byw ar y teledu fod ei genedl yn ‘symud ymlaen’, ac yn bwriadu ‘cyflawni mewn byr o dro… ein tynged fel gwlad annibynnol, ddatblygedig a llewyrchus.’
“Y tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae’n ymddangos bod llanw hanes yn rhedeg yn erbyn y Goron Brydeinig, gyda 36 o’r 56 aelod o’r Gymanwlad eisoes yn weriniaethau.”
Pethau “ddim yn fêl i gyd” yn y Deyrnas Unedig
Wrth drafod materion yn nes at adref, dywed Arwel Vittle, “hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, nid yw pethau’n fêl i gyd”.
“Mae cyhoeddusrwydd negyddol cyson yn tarfu ar y Windsors – yn amrywio o gysylltiadau’r Tywysog Andrew â chylch pedoffeil Jeffrey Epstein i honiadau ‘arian am anrhydeddau’ yn ymwneud ag elusen Charles, Sefydliad y Tywysog,” meddai.
“Yn ogystal â hynny mae’r berthynas anodd rhwng Charles a’i ail fab, Harry, a’r ddadl barhaus ynghylch agweddau hiliol yn y teulu brenhinol, yn enwedig tuag at wraig Harry, Meghan.”
Mae’r awdur yn dyfynnu’r sylwebydd cyfreithiol, David Allen Green, sy’n disgrifio’r frenhiniaeth Brydeinig fel “sefydliad hynod fregus – er gwaethaf ei gwytnwch”.
Mae David Allen Green yn nodi, pan aned y Frenhines yn 1926, bod ei thaid Edward VII yn Frenin Prydain Fawr ac Iwerddon, yn ogystal ag Ymerawdwr India a mannau eraill, ond yn ystod ei hoes daeth 26 o siroedd Iwerddon yn weriniaeth a newidiodd yr ymerodraeth yn gymanwlad.
“Felly, gellid dweud bod y teulu brenhinol yn wynebu brwydr barhaus i gynnal ei berthnasedd a’i ddilysrwydd,” meddai’r awdur.
A beth am Gymru?
Hyd yn oed yng Nghymru, mae’n ymddangos nad yw cefnogaeth i’r frenhiniaeth wedi’i gwreiddio mor ddwfn ag a gafodd ei dybio cyn hyn, yn ôl Arwel Vittle.
Datgelodd arolwg ar drothwy Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth II ar agweddau yng Nghymru tuag at y frenhiniaeth wahaniaeth sylweddol mewn agweddau ar sail hunaniaeth ac iaith, gyda pherthynas amlwg rhwng cefnogi’r teulu brenhinol a hunaniaeth genedlaethol.
Yn dilyn marwolaeth y Frenhines, symudodd Charles yn gyflym i gyhoeddi William yn Dywysog newydd Cymru ac, yn ôl Arwel Vittle, ysgogodd hyn ymateb chwyrn ymhlith cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr Cymreig, gan adleisio’r ymateb i Arwisgiad 1969.
Fis Hydref y llynedd, pleidleisiodd cynghorwyr Gwynedd o fwyafrif llethol yn erbyn arwisgiad i’r Tywysog William, a hefyd o blaid diddymu teitl Tywysog Cymru.
Mae’r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn credu bod rhywbeth arwyddocaol wedi newid o ran y berthynas rhwng Cymreictod a’r frenhiniaeth.
“Mae rhwymau teyrngarwch wedi llacio’n sylweddol ac mae’r berthynas gyda’r teulu brenhinol wedi pellhau llawer ers arwisgo 1969,” meddai.
Yn ôl Richard Wyn Jones, mae hyn yn dynodi bod gafael y teulu brenhinol yn araf yn “crebachu i graidd Eingl-Brydeinig gwladwriaeth Prydain”.
“Fe allai hyn gael ei waethygu yn y blynyddoedd i ddod, gan fod y Frenhines wedi marw a Charles wedi esgyn i’r orsedd,” meddai.
Perthnasedd y teulu i Gymru
Mae Arwel Vittle, sy’n adrodd y stori gyda chyfraniadau uniongyrchol gan brotestwyr, ymgyrchwyr a newyddiadurwyr a fu’n rhoi sylw i ddigwyddiadau 1969, hefyd yn bwrw amheuaeth ar berthnasedd y Teulu Brenhinol i Gymru.
“Roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr hanes poblogaidd darllenadwy yn ogystal â rhoi teimlad byw i ddarllenwyr o sut brofiad oedd bod yn rhan o ferw’r cyfnod,” meddai.
“Roedd yn gyfnod cyffrous a chwyldroadol nid yn unig gydag ymgyrch fomio barhaus MAC, ond hefyd gwrthdystiadau torfol Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn cael ei llwyddiannau etholiadol cyntaf.
“Roeddwn am edrych ar yr hyn a achosodd yr adwaith hwn adeg Arwisgiad Charles, a fu’r ymgyrchu werth yr ymdrech, ac a allai’r cyfan ddigwydd eto.
“Nawr mae’n ymddangos bod cynlluniau’r awdurdodau ar gyfer arwisgo William wedi newid ar ol i gyhoeddiad Charles y byddai ei fab yn Dywysog Cymru, sbarduno adwaith yng Nghymru a oedd efallai’n fwy ffyrnig na’r disgwyl.
“Gyda lefel y gwrthwynebiad, mae’n edrych fel eu bod nhw wedi ailfeddwl am gael arwisgiad mawreddog arall yma.
“Amlygwyd y gagendor rhwng y Teulu Brenhinol a Chymru yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddar, gydag ansicrwydd ynghylch pa dîm pêl-droed yr oedd y Tywysog William yn ei gefnogi, ar ôl i Dywysog Cymru roi ffarwel brwdfrydig i dîm Lloegr, gan ddweud wrthyn nhw, ‘Y mae gweddill y wlad y tu ôl i chi, rydyn ni i gyd yn gweiddi drosoch chi’.”
Wrth sôn am goroni’r Brenin Siarl, dywed yr awdur fod yna “lefel o elyniaeth tuag at y teulu brenhinol o fewn rhan sylweddol o gymdeithas Cymru”.
“Ac i nifer fawr o bobl yma bydd unrhyw ddathliadau adeg y Coroni yn dawedog ac arwynebol a dweud y lleiaf,” meddai.
Mae Charles and the Welsh Revolt wedi’i chyhoeddi gan Y Lolfa, ac ar gael i’w phrynu ar-lein ac mewn siopau llyfrau.