Mae Cymdeithas Ddaearegol Prydain wedi nodi bod gan ryw draean o Gymru botensial daearegol ar gyfer cloddio am fwynau hynod bwysig, sy’n hanfodol i gynhyrchu technolegau uwch a glân – o led-ddargludyddion i dyrbinau gwynt a thechnolegau batri uwch.

Gyda Chymru eisoes yn barod i fod ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd, a rhai’n rhagweld y bydd Cymru’n cynhyrchu dros 16 gwaith ei chynhyrchiant ynni blynyddol cyn diwedd y degawd hwn, mae cael y deunyddiau crai hyn wrth law yn golygu y gallai Cymru elwa’n ariannol, yn ôl mudiad YesCymru.

Gall Cymru hefyd elwa o’r deunyddiau hyn drwy’r ‘gwerth ychwanegol’ ar bob cam o’r broses gynhyrchu a chreu, meddai’r mudiad.

Wrth i’r byd drawsnewid o’r Oes Ddiwydiannol a’r dibyniaeth ar danwydd ffosil i’r Oes Ddigidol ac ynni adnewyddadwy, sy’n dibynnu ar brinfwyn prin a mwynau hanfodol, dyma adnodd naturiol arall i bweru economi Cymru.

“Mae hyn yn fwy o dystiolaeth y bydd Cymru annibynnol yn bwerdy economaidd yn yr unfed ganrif ar hugain, ond mae’n rhaid i ni fel cenedl gael ein hannibyniaeth os ydym am gael y buddion ac os ydym am elwa o’r asedau a’r potensial hwn,” meddai Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru.

“Fel arall bydd ein cyfoeth a’n helw yn cael eu trwytholchi gan San Steffan fel a ddigwyddodd dro ar ôl tro drwy ein hanes, fel rhan o’r Deyrnas Unedig, lle cawsom ein  hecsbloetio’n economaidd er budd y canol.

“Yn y byd mawr o gydweithredu rhyngwladol, mae’n bryd i bobl Cymru ddweud ’digon yw digon’, a chydnabod bod y byd wedi symud ymlaen, a nodi gwerth amhrisiadwy y pethau bychan, cyfoethog.

“Gadewch i ni benderfynu ar y ffordd orau o wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a’n cyfoeth ni ein hunain.

“Gadewch i ni fod yn bartneriaid gyda Lloegr, yr Alban, Iwerddon a gweddill y byd mewn fframwaith rhyngwladol a fydd yn ein cryfhau ni gyd.”

‘Y cyfleoedd mwyaf i Gymru’n ariannol’

“Bydd y refeniw o ynni adnewyddadwy gan gynnwys ei ddefnydd i gynhyrchu hydrogen gwyrdd yn cael ei fesur mewn biliynau o bunnoedd, yn enwedig wrth i Gymru edrych tuag at ei hadnodd ynni gwynt alltraeth helaeth,” meddai Guto Owen, Cyfarwyddwr Ynni Glân.

“Yn ogystal â’r ochr gynhyrchu, bydd perchnogaeth a rheolaeth dros y gadwyn gyflenwi – o hawliau mwyngloddio’r mwynau, i’r cloddio ei hun a phrosesu’r mwynau, eu gweithgynhyrchu a’u hisadeiledd – yn y diwydiannau technoleg lân, newydd, ffyniannus yn creu’r cyfleoedd mwyaf i Gymru’n ariannol.

“Bydd hefyd yn cefnogi economi wydn.

“Ond mae’n rhaid bod yn ofalus iawn wrth gloddio unrhyw fwynau newydd yng Nghymru a’r man cychwyn bob amser yw’r cwestiwn hanfodol, “Beth sydd ynddo i Gymru?”