Mae Colin Beattie, trysorydd yr SNP, wedi cael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad i sefyllfa ariannol y blaid.
Daw hyn yn fuan ar ôl i Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr y blaid a gŵr y cyn-arweinydd a chyn-Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, gael ei arestio fel rhan o’r un ymchwiliad.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dyn 71 oed yn cael ei holi yn y ddalfa, ac fe fydd adroddiad yn cael ei anfon at Swyddfa’r Goron a’r erlynydd.
Pwy yw Colin Beattie?
Cafodd Colin Beattie ei ethol yn Aelod o Senedd yr Alban yn 2011.
Ymddiswyddodd ei olynydd Douglas Chapman yn 2021, gan ddweud nad oedd e wedi derbyn gwybodaeth na chefnogaeth ddigonol i wneud ei waith.
Yn ôl fideo sydd wedi dod i’r fei, fe wnaeth Nicola Sturgeon wfftio pryderon am sefyllfa ariannol y blaid yn 2021.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i sut gafodd £600,000 o arian ymgyrchu’r blaid ei wario.
Cafodd Peter Murrell ei arestio ar Ebrill 5, ac fe wnaeth yr heddlu gynnal cyrchoedd ar sawl eiddo mewn perthynas â’r achos.
Ond cafodd ei ryddhau heb ei guhuddo wrth i’r ymchwiliad barhau.