Mae’r gwaith ymchwil diweddaraf sy’n mapio’r sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn dangos ei fod yn mynd o nerth i nerth ar ôl Covid-19, gyda lefelau uchel o weithgarwch entrepreneuraidd.

Datgelodd Mapio’r Sector Busnes Cymdeithasol yng Nghymru (2022), gafodd ei gomisiynu gan Fusnes Cymdeithasol Cymru:

  • fod tua 2,828 o fusnesau yn y sector erbyn hyn, sydd 22% yn fwy nag yn 2020 (2,309)
  • bod busnesau cymdeithasol bellach yn cynrychioli 2.6% o gyfanswm y stoc busnes yng Nghymru, i fyny o 2.2% yn 2020.
  • bod cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm trosiant y sector yw £4.8bn, sydd 26% yn fwy nag yn 2020 (£3.8bn). Mae hyn yn cynnwys mentrau mawr fel Dŵr Cymru a Pobl
  • bod cyfrifiadau’n dangos mai cyfanswm y gyflogaeth ar gyfer y sector yw 65,299, sydd 16% yn fwy nag yn 2020 (56,000)
  • bod cyfrifiadau’n dangos mai nifer y gwirfoddolwyr yw 54,261, sydd 14% yn fwy nag yn 2020 (47,443)
  • bod chwarter y busnesau gafodd eu harolygu’n ‘egin fusnesau’ sydd wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd neu lai.

‘Bregus’

Ers 2014, mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu arolwg mapio dwyflynyddol o’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru.

Mae dau ddiben i’r ymarfer mapio, gafodd ei gynnal gan Wavehill, sef deall maint a graddfa’r sector busnes cymdeithasol, a gwirio iechyd y sector (gan gynnwys amlygu rhai o’r heriau sy’n cael eu hwynebu, a’r cyfleoedd sydd ar gael).

Yn 2022, roedd yr ymarfer hefyd yn gyfle i ddeall sut roedd y pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y sector.

Ddwy flynedd yn ôl yn 2020, daeth yr arolwg i ganfod sector oedd yn adfer ar ôl Covid-19, lle’r oedd effaith y pandemig yn atal twf yn hytrach nag achosi dirywiad.

Yn 2020, roedd y sector yn dangos arwyddion cryf o ehangu trwy weithgarwch entrepreneuraidd.

Fodd bynnag, mae arwyddion o fregusrwydd yn y sector gyda thystiolaeth sy’n awgrymu y gallai effeithiau’r pandemig fod yn parhau o hyd, yn ogystal â phwysau yn sgil gostyngiad mewn arian cyhoeddus, prisiau ynni sy’n codi a chwyddiant uchel.

Rhagolygon optimistaidd

Fodd bynnag, mae’r rhagolygon ar gyfer twf busnes yn optimistaidd dros y tymor hir, ac mae llawer o fusnesau cymdeithasol yn obeithiol ynglŷn â’u trosiant a’u helw yn y dyfodol.

Mae dangosyddion sy’n ymwneud â datblygiad busnes yn awgrymu bod busnesau cymdeithasol yn ceisio ehangu ac amrywiaethu, gan adrodd ar ystod o ddangosyddion datblygu busnes yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae llawer o ddangosyddion wedi adlamu’n ôl i lefel debyg i ffigurau 2018, ar ôl gostwng yn 2020.

Mae hyn yn awgrymu y bu busnesau mewn cyfnod o gyfnerthu neu oroesi yn ystod y pandemig, ond eu bod yn ceisio tyfu eto bellach.

‘Amlygu rôl gynyddol bwysig busnesau cymdeithasol’

Glenn Bowen yw Prif Weithredwr dros dro Cwmpas, sy’n cyflwyno rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru.

“Mae’r astudiaeth arwyddocaol hon yn amlygu rôl gynyddol bwysig busnesau cymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru, yn enwedig yn y frwydr i fynd i’r afael â thlodi,” meddai.

“Maen nhw’n aml yn cynnig gwasanaethau mewn ardaloedd difreintiedig na fyddent ar gael fel arall; maen nhw’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd, yn cyfrannu at ddatblygu economaidd mewn cymunedau sydd dan anfantais, ac yn aml yn targedu eu gwaith yn uniongyrchol i helpu pobol ddifreintiedig.

“Mae hyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r argyfwng costau byw sy’n wynebu ein cymunedau.

“Gobeithiwn y bydd data o’r ymarfer mapio yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau, cynllunio a chynnal gwasanaethau cyhoeddus, a dyrannu arian er mwyn parhau i gefnogi’r sector.”