Bydd Neuadd Dwyfor ym Mwllheli yn ailagor ar ei newydd wedd nos Iau (Ebrill 20), gyda £36,000 o fuddsoddiad newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Daw’r newyddion am y buddsodidiad ar drothwy darllediad o sioe National Theatre Live: The Cruicible ar noson yr ail agoriad.
Bydd y grant yn caniatáu i Neuadd Dwyfor arbrofi gyda chreu rhaglen o ddigwyddiadau gan ehangu’r cynnig o ddigwyddiadau byw megis cerddoriaeth byw, cabaret, comedi, dawns a sioeau theatr.
Gwaith cynnal a chadw
Mae’r gwaith cynnal a chadw diweddar wedi diogelu’r adeilad hanesyddol, sy’n dyddio’n ôl i droad y ganrif ddiwethaf, rhag effeithiau’r tywydd.
Cafodd gwaith i ddiogelu’r brics coch allanol ei gwblhau er mwyn arbed yr adeilad rhag tamprwydd a thynnwyd y sgaffald ar flaen yr adeilad ddechrau mis Ebrill.
Yn ogystal â hyn mae’r gwaith allanol yn cynnwys ail rendro, adnewyddu’r gwaith plwm a gosod ffenestri newydd hefyd.
Tu mewn i’r adeilad mae gwaith wedi ei gwblhau ar y waliau i drin tamprwydd gan gynnwys ail blastro a pheintio, a gosodwyd carpedi newydd yn y mannau cyhoeddus.
Maes o law bydd drysau newydd yn cael eu gosod ar flaen yr adeilad gan gynnwys prif fynedfa awtomatig er mwyn gwella insiwleiddied y cyntedd.
‘Balch iawn’ o groesawu cynulleidfaoedd yn ôl
“Dyma bennod newydd a chyffrous yn hanes hir Neuadd Dwyfor yn dilyn buddsoddiad sylweddol i ddiogelu’r adnodd pwysig hon gan Gyngor Gwynedd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.
“Rydw i’n ddiolchgar hefyd i’r Cyngor Celfyddydau am eu cefnogaeth i ddatblygu rhaglen gelfyddydol gyfoes fydd yn denu cynulleidfaoedd ar gyfer y bennod newydd yma.
“Byddwn yn falch iawn o groesawu cynulleidfaoedd hen a newydd yn ôl i Neuadd Dwyfor yn fuan, gan edrych ymlaen at fwynhau digwyddiadau celfyddydol gwych yn y flwyddyn y byddwn yn croesawu’r Eisteddfod i Lŷn ac Eifionydd.”