Daeth Côr Dre i’r brig mewn tair cystadleuaeth yn yr Ŵyl Ban Geltaidd dros y penwythnos a chafodd y côr ei goroni’n Gôr yr Ŵyl.

Bu’r côr o Gaernarfon yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth gorawl digyfeiliant, cân harmoni traddodiadol unsain digyfeiliant, a’r gystadleuaeth gorawl agored.

Bu’r Moniars Bach hefyd yn fuddugol draw yn yr ŵyl yng Ngharlow, a daeth ‘Patagonia’ gan Alistair James yn ail yn y gystadleuaeth Cân Ryngwladol.

‘Awyrgylch cefnogol’

Roedd hi’n “wych” derbyn clod gan y beirniaid ar ôl gwaith caled yn paratoi meddai trysorydd y côr, Jamie Dawes-Hughes.

“Roedd o’n grêt cael ennill achos rydan ni wedi gweithio mor galed ac mae ein harweinydd, Sian Wheway, wedi rhoi gymaint mewn i’r ymarferion i’n cael ni’n barod,” meddai wrth golwg360.

“Rydan ni wedi gweithio’n galed iawn dros y misoedd diwethaf felly roedd cael y clod yna gan y beirniaid yn wych.

“Gan ein bod ni heb gael y pleser o fynd i’r ŵyl ers 2019, roedd hi’n wych gallu mynd yn ôl, ac roedd ennill ar ben hynny’n bonws llwyr.”

Mae’r côr wedi hen arfer cystadlu yn yr ŵyl ond roedd hi’n “grêt gweld corau yn gallu dod at ei gilydd” unwaith eto wrth iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf ers y pandemig.

“Y siawns gyntaf gawson ni ar ôl cael gwybod bod yr ŵyl yn mynd yn ei flaen eleni, wnaethon ni wneud yn siŵr bod ein haelodau ar gael.

“Roedd yna dipyn o gorau Cymru yno ac roedd hi bron fel bod mewn Eisteddfod draw yn Iwerddon.

“Roedd hi’n grêt gweld corau yn gallu dod at ei gilydd eto mewn awyrgylch mor gefnogol.

“Mae pawb yn gwylio ei gilydd yn cystadlu ac mae yna lot o gymeradwyaeth.

“Mae o’n lle mor braf i gystadlu ac efo corau o lefydd fel Iwerddon sydd efo traddodiadau gwahanol i ni.”

Llygaid ar yr Eisteddfod

Er bod y côr yn tueddu i deithio draw i’r ŵyl bob yn ail flwyddyn, mae si bod siawns y byddan nhw’n dychwelyd yn amlach yn dilyn eu llwyddiant.

“Falle bydd yna alw gan yr aelodau i fynd yn ôl flwyddyn nesaf, ond byddwn ni’n sicr yn ôl yn 2025,” meddai Jamie.

“Ond gawn ni weld am flwyddyn nesaf ar ôl y dathlu.”

Bydd y côr nawr yn mynd ati i baratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni.

“Bydd yna ddathliad yn gyntaf i longyfarch pawb am eu gwaith caled, ond canolbwyntio ar yr Eisteddfod fydd nesaf.”

Llwyddiant i’r Cymry yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Elin Wyn Owen

Daeth y Moniars Bach, sydd bellach dan yr enw Elysian, yn fuddugol yn y gystadleuaeth am y Gân Newydd Orau yn y dull gwerin a’r Band Gwerin Gorau

‘Braint’ cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Elin Wyn Owen

Bydd Dylan Morris yn perfformio ‘Patagonia’, a gyfansoddwyd gan Alistair James, yng nghystadleuaeth Cân Ryngwladol yr ŵyl heno