Wrth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog arddel yr enw Cymraeg yn unig o heddiw (dydd Llun, Ebrill 17), mae digrifwr o Loegr wedi cyhoeddi ei her redeg nesaf yn y mynyddoedd.

Mae Rob Deering o Lundain yn hen gyfarwydd â rhedeg marathonau a chwblhau heriau corfforol, ac fe fydd yr un ddiweddaraf o fudd i Ganolfan Ganser Felindre.

Cafodd ei ysbrydoli gan frwydr bersonol ei gyd-ddigrifwr a ffrind, Rhod Gilbert o Gaerfyrddin, â chanser ar gyfer ei her ddiweddaraf, sef ras Wltra TEC Bannau Brycheiniog.

Mewn neges yn cyhoeddi ei her ddiweddaraf, fe dynnodd e sylw at yr enw Cymraeg.

“Bannau Brycheiniog yw mynyddoedd harddaf de Cymru yn swyddogol erbyn hyn, felly dyma’r eiliad i gyhoeddi fy her nesaf,” meddai ar ei dudalen Facebook.

“Dw i’n gwybod fod hon yn dynn ar sodlau’r un ddiwethaf, ond plis noddwch fi, oherwydd mae’n ACHOS GWYCH ac fe fydd yn WAITH CALED.”

Daw’r her ychydig wythnosau cyn i Rob Deering berfformio yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ddiwedd y mis yma, ac fe fydd e hefyd yn rhedeg ym Marathon Llundain yr wythnos nesaf (Ebrill 23).

Felindre

“Mae fy ffrind Rhod Gilbert wedi gwneud llawer o waith codi arian gwych ar gyfer Canolfan Ganser Felindre yn ne Cymru, ac yn fwyaf diweddar, yn mynd trwy ganser ei hun, mae e wedi elwa ar eu gofal nhw,” meddai Rob Deering ar dudalen codi arian.

“Dw i eisiau helpu.

“Mae Felindre, yr Ysbyty Gobaith, wedi bod yn darparu triniaeth arbenigol a gofal gefnogol i gleifion canser a’u teuluoedd ers dros 65 mlynedd.

“Mae arian sy’n cael ei godi tuag at Elusen Felindre yn helpu i ariannu ymchwil a phrofion clinigol sy’n torri tir newydd, triniaethau o’r radd flaenaf, nyrsys arbenigol, gwasanaethau cymorth, therapïau, cyfarpar a chymaint mwy sydd ar ben yr hyn sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – felly mae rhoddion wir yn cael effaith sylweddol ar gleifion a’u teuluoedd.

“Bydd eich rhodd yn galluogi Felindre i barhau i gynnig Gobaith ar gyfer y dyfodol.

“Diolch ymlaen llaw – a dymunwch bob lwc i fi ar gyfer fy rhediadau mawr!”

 

Bannau Brycheiniog

Bannau Brycheiniog am ddefnyddio’r enw Cymraeg yn unig yn y dyfodol

Daw’r newid ar ben-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 66 oed heddiw (dydd Llun, Ebrill 17)