Dim ond yr enw Cymraeg ‘Bannau Brycheiniog’ fydd yn cael ei ddefnyddio gan y Parc Cenedlaethol o heddiw (dydd Llun, Ebrill 17).

Yr enw wrth gyfeirio at y parc yn Saesneg fydd ‘Bannau Brycheiniog National Park’, ac mae’r penaethiaid yn dweud bod hwn yn gam tuag at ddathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Mae’n rhan o gyfres o newidiadau i’r ffordd mae’r parc yn cael ei redeg, gyda phwyslais arbennig hefyd ar newid hinsawdd, ac fe ddaw ar ôl i Eryri wneud yr un fath y llynedd.

Mae’r parc, sydd ryw 520 milltir sgwâr ac sydd wedi ennill statws UNESCO, yn denu oddeutu pedair miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Serch hynny, mae pryderon ynghylch byd natur yr ardal, gyda gostyngiad sylweddol mewn adar fferm a lleihad yn safon y dŵr dros y degawdau diwethaf.

Y gobaith yw gwyrdroi’r patrwm hwn erbyn 2030, a chyrraedd allyriadau sero net erbyn 2035.

Eu bwriad yw plannu miliwn o goed, adfer tir sydd wedi’i ddinistrio, cyflwyno cynlluniau ynni adnewyddadwy a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.