“Peidiwch â chredu popeth yn y papurau newydd” yw ymateb y newyddiadurwr Huw Edwards ar Twitter i’r adroddiadau ei fod yn un o nifer o staff yn adran newyddion y BBC sydd wedi cael cynnig diswyddiad gwirfoddol.
Daw hyn yn dilyn adroddiadau dros y penwythnos fod nifer o staff mwyaf blaenllaw adran newyddion y Gorfforaeth wedi derbyn llythyron gan Phillippa Busby, sy’n gyfrifol am yr adran newyddion dros dro, yn eu rhybuddio am y cynlluniau i arbed arian.
Ymhlith cynlluniau’r Gorfforaeth mae gwario llai o arian ar yr adran newyddion.
Mae lle i gredu bod Huw Edwards, Clive Myrie a Sophie Raworth ymhlith y rhai sydd wedi derbyn llythyr.
Ond yn ôl Huw Edwards, “arfer Adnoddau Dynol safonol” yw hyn a “gwahoddiad safonol i ystyried gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol” a “dim byd mwy”.
“Fel mae fy Mam yn dweud, peidiwch â chredu popeth yn y papurau,” meddai.