Mae tân gwyllt ddechreuodd yng ngogledd Catalwnia dros y penwythnos yn parhau i ledu dros yr ardal.
Dechreuodd y tân yn Rousillon, un o siroedd hynafol gogledd Catalwnia yn Ffrainc, ac mae’n symud tua’r de gan groesi’r ffin i mewn i dref Portbou yn Costa Brava.
Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn symud pobol o’r ardal wrth iddyn nhw geisio cadw’r tân dan reolaeth.
Mae nifer o ffyrdd ynghau, ac mae’r sefyllfa wedi tarfu ar drenau rhwng Portbou a Cervera, yn ogystal â’r rheiny rhwng Portbou a Perpignan.
Yn ôl Xavier Barranco, Maer Portbou, mae’r fflamau wedi cyrraedd ardal sydd 300 metr i ffwrdd o ardaloedd trefol.
Mae’r cyhoedd yn cael eu rhybuddio i beidio â gadael eu cartrefi heb fwgwd, wrth i fwy na 60 o ddiffoddwyr tân barhau i geisio diffodd y fflamau.
Mae’r tân eisoes wedi effeithio ar 750 hectar o dir.