Mae deiseb wedi cael ei sefydlu a’i llofnodi gan gannoedd o bobol yn sgil cryn bryder am dorri gwasanaethau bysiau yn Nyffryn Ogwen.
Dechreuodd Catrin Wager, cynghorydd cymuned ym Methesda, y ddeiseb am ei bod yn pryderu cymaint am y newidiadau.
“Mae Arriva yn bwriadu torri’r nifer o fysiau rhwng Bethesda a Bangor o 41%, ymhlith newidiadau eraill fel peidio mynd i Gerlan na Llys y Gwynt,” meddai Catrin Wager ar Facebook.
“OGYDD wnewch chi arwyddo’r ddeiseb yma i wrthwynebu.”
Y ddeiseb
Mae’r ddeiseb ‘Achub Bysiau Bethesda’ yn nodi’r newidiadau a’r effaith y byddan nhw’n ei chael ar bobol y dyffryn.
“Mae’r gwasanaeth bws rhwng Bethesda a Bangor yn wasanaeth hanfodol, sy’n cysylltu pobol gyda’u cyflogaeth ac addysg yn ogystal â chyfleusterau manwerthu, hamdden a meddygol,” meddai.
“O Ebrill 30, bydd Arriva Cymru yn torri’r nifer o fysiau rhwng Bethesda a Bangor o 41%, gan leihau’r bysiau i yn agos i fws bob awr.
“Maen nhw hefyd yn bwriadu peidio ymweld â Llys y Gwynt (One Stop), sydd yn arhosfan hanfodol i’r rhai sydd yn gweithio, byw neu aros yno.
“Mae hefyd yn ymddangos fel tase nhw’n bwriadu peidio rhedeg bysiau i Gerlan (a tydy o ddim yn glir o’u gwefan os bydd y gwasanaeth newydd yn ymweld â Rachub na Carneddi chwaith).
“Bydd y toriadau hyn yn cael effaith sylweddol ar drigolion Dyffryn Ogwen ac felly ysgrifennwn, ar fyrder, i ofyn i’r toriadau hyn gael eu gwrthdroi.
“Os gwelwch yn dda wnewch chi arwyddo’r ddeiseb i leisio’ch gwrthwynebiad.
“Ar adeg o argyfyngau lluosog, mae gwasanaethau bws yn bwysicach nag erioed dylem fod yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac yn ei wella, nid ei dorri.”
Effaith ar bobol leol
Mae Heather Williams, sy’n byw yn Llanllechid, yn un sydd wedi’i heffeithio, ac mae hi wedi bod yn siarad â golwg360, gan ddweud y bydd rhaid iddi roi gorau i’w swydd.
“Maen nhw yn rhoi terfyn ar fynd i One Stop yn gyfangwbl a dwi yn dibynnu ar honna gan bo fi’n gweithio yn traffic base yr heddlu, a’n dal y bws oddi yno i orsaf dân Bangor bob dydd,” meddai.
“Rwy’n dibynnu ar yr un 6.25 yn y bore i One Stop, ac wedyn yr 8.40 i orsaf dân Bangor.
“Bydd rhaid rhoi’r gorau i weithio i’r heddlu os ydi hyn yn digwydd.
“Mae llawer o bobol ddigartref yn byw yn y Travelodge, ac yn dal y bws i gludo’u plant i’r ysgol.”
Ymateb Arriva
“Mae’r llwybr wedi’i addasu i wella prydlondeb y gwasanaeth 67 ar y cyfan, gyda’r amser o beidio gweithredu i mewn i One Stop yn cael ei fuddsoddi yn amser rhedeg yr holl daith er mwyn sicrhau gweithrediad prydlon y gwasanaeth,” meddai llefarydd ar ran Arriva.
“Nid ar chwarae bach mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud, ond rydym yn credu bod y weithred yn angenrheidiol er mwyn bod o fudd i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”