Ar ddiwedd y mis, bydd cwmni bysus Arriva yn rhoi terfyn ar nifer sylweddol o wasanaethau yn ardal Dyffryn Ogwen.
Mae hyn am achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth mawr i lawer o bobol, gydag un ddynes leol yn dweud y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w swydd os ydi hyn yn digwydd.
Mae hi hefyd yn dweud na fydd rhieni digartref sydd efo plant ac yn aros yn y Travelodge lleol yn gallu cludo’u plant i’r ysgol.
“Maen nhw yn rhoi terfyn ar fynd i One Stop yn gyfangwbl a dwi yn dibynnu ar honna gan bo fi’n gweithio yn traffic base yr heddlu, a dal y bws oddi yna i orsaf dân Bangor bob dydd,” meddai Heather Williams, sy’n byw yn Llanllechid, wrth golwg360.
“Rwy’n dibynnu ar yr un 6.25 yn y bore i One Stop, ac wedyn yr 8.40 i orsaf dân Bangor.
“Bydd rhaid rhoi’r gorau i weithio i’r heddlu os ydi hyn yn digwydd.
“Mae llawer o bobol ddigartref yn byw yn y Travelodge, ac yn dal y bws i gludo’u plant i’r ysgol.”
Ymateb Arriva
“Mae’r llwybr wedi’i addasu i wella prydlondeb y gwasanaeth 67 ar y cyfan, gyda’r amser o beidio gweithredu i mewn i One Stop yn cael ei fuddsoddi yn amser rhedeg yr holl daith er mwyn sicrhau gweithrediad prydlon y gwasanaeth,” meddai llefarydd ar ran Arriva.
“Nid ar chwarae bach mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud, ond rydym yn credu bod y weithred yn angenrheidiol er mwyn bod o fudd i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”