Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio trigolion i fod yn ymwybodol o gwmni gosod mesurau arbed ynni sydd wedi bod yn defnyddio logo’r Cyngor heb ganiatâd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae iEnergy Ltd o Birmingham wedi bod yn defnyddio logo’r Cyngor i hyrwyddo’r ffaith fod cyllid ar ffurf grantiau ar gael ar gyfer mesurau arbed ynni yn y cartref trwy gyfrwng hysbysebion wedi’u noddi ar Facebook.
Mae’r ffaith fod iEnergy yn defnyddio’r logo yn awgrymu bod y Cyngor wedi rhoi ei gymeradwyaeth a’i fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni gosod, ond nid yw hyn yn wir, meddai’r Cyngor.
Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi rhoi caniatâd i iEnergy Ltd ddefnyddio’u logo, ac nad ydyn nhw’n “cymeradwyo’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y cwmni”.
“Mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at iEnergy Ltd gan fynnu eu bod yn stopio defnyddio logo Cyngor Sir Ceredigion a’r hysbysebion sy’n ymddangos ar Facebook ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill,” meddai’r Cyngor yn eu datganiad.
Bygwth cyfraith
Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd.
Mae’n dweud nad yw’r cwmni wedi cael caniatâd nac wedi’u cymeradwyo i ddefnyddio’r logo, ac y bydd camau pellach yn cael eu cymryd os ydyn nhw’n parhau i wneud hynny.
“Mae defnydd iEnergy Limited o’n logo yn rhoi’r argraff i drigolion Ceredigion sydd wedi gweld yr hysbyseb hon ar Facebook bod y Cyngor wedi cymeradwyo eu cwmni, sydd ddim yn wir,” meddai.
“Nid ydym wedi rhoi caniatâd i’r cwmni ddefnyddio ein logo ac nid ydym yn cymeradwyo’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig.
“Os bydd y cwmni yn parhau i ddefnyddio ein logo, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol priodol yn eu herbyn.”
Y cynllun
Mae’r Cyngor yn cymryd rhan yng nghynllun Flex ECO4 er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y sir.
Mae’r cynllun yn cael ei arianu gan gyflenwyr ynni ymrwymedig, ac mae’n galluogi gwelliannau ynni yn y cartref.
Mae’r Gwasanaeth Tai yn rheoli fframwaith o ddarparwyr ECO4 er mwyn darparu mesurau dan Flex ECO4 ac mae’n cynnal asesiadau o gymhwystra cleientiaid.
Dylai aelwydydd sy’n dymuno gwneud cais am gyllid Flex ECO4 gysylltu ag un o ddarparwyr Flex ECO4 cymeradwy Cyngor Sir Ceredigion a fydd yn hwyluso’r broses ymgeisio, meddai’r Cyngor.