Fis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bum bil newydd fel rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Prif Weinidog, bwriad y rhain yw creu “Cymru decach, wyrddach a chryfach”, ac fe ddywedodd y byddai’r biliau’n chwarae “rhan hanfodol o’n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru’r dyfodol”.

Cyhoeddodd y Senedd ymchwil newydd ddoe (dydd Iau, Ebrill 13) yn craffu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn o ran y pum bil.

Bil plastigau untro

Y bil cyntaf i gael ei gyflwyno oedd y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro), gyda’r bwriad o waredu plastigau untro cyn gynted â phosib.

Cafodd ei gyflwyno’n wreiddiol fis Medi y llynedd, a daeth ei daith drwy’r Senedd i ben ddechrau mis Rhagfyr.

Mae’r bil wedi mynd y tu hwnt i gyfnod pedwar yn y broses erbyn hyn.

Dydy’r bil ddim wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol eto, ac ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Llywydd Elin Jones ar Fawrth 22 er mwyn egluro y bydd yn rhaid atal y bil rhag dod i rym am y tro.

Mae hyn oherwydd ei bod hi’n bosib y bydd y bil yn creu rhwystr i fasnach, ac mae Sefydliad Masnach y Byd yn gofyn am chwe mis rhwng pasio’r ddeddfwriaeth a dod â’r ddeddfwriaeth i rym.

O ganlyniad, bydd yn rhaid aros tan ddechrau mis Mehefin i’r bil ddod yn gyfraith.

Bil Aer Glân

Cafodd y Bil Aer Glân ei gyflwyno yn wreiddiol mewn Papur Gwyn fis Ionawr 2021.

Ar Fawrth 20 eleni, cafodd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) ei gyflwyno gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Mae’n gosod targedau aer glân, a dyletswyddau ar weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol er mwyn mynd i’r afael â phroblem llygredd sŵn.

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn cynllunio sesiynau tystiolaeth bellach yn dilyn y sesiwn gyntaf ar Gyfnod 1 o’r Bil, gafodd ei chynnal ar Fawrth 29 eleni.

Bydd yn rhaid cyflwyno adroddiad i’r Senedd erbyn Gorffennaf 14.

Bil Amaethyddiaeth

Cafodd y bil hwn ei gyflwyno ar Fedi 26 y llynedd, ac mae wedi cyrraedd Cyfnod 3 erbyn hyn.

Mae’n sefydlu fframwaith newydd, yn seiliedig ar ‘Reoli Tir yn Gynaliadwy’, ar gyfer cymorth amaethyddol gyda’r bwriad o bontio o system gymorth Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hefyd yn anelu i ddiwygio Deddf Taliadau Amaethyddol 1986 i ddarparu llwybr i denantiaid i ddatrys anghydfod o dan rai amgylchiadau wrth ddisodli’r pwerau cyfnod cyfyngedig ar gyfer gweinidogion Cymru yn Neddf Amaethyddiaeth 2020.

Yn ystod Cyfnod 3, gall Aelodau gynnig gwelliannau i’r Senedd bleidleisio arnyn nhw, ac er nad oes dyddiad wedi’i bennu eto mae disgwyl y bydd hyn yn digwydd o fewn yr wythnosau nesaf.

Bil Diogelwch Tomenni Glo

Dydy’r bil yma ddim wedi’i gyflwyno i’r Senedd eto.

Gan fod y mwyafrif o domenni glo Cymru yn segur, a bod hynny’n peri peryglon megis tirlithriadau a llifogydd, bwriad Llywodraeth Cymru oedd ystyried sut mae modd diwygio’r system reoleiddio ar gyfer tomenni glo.

Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad yn sgil hyn fis Mawrth y llynedd.

Ymatebodd Julie James mewn llythyr fis diwethaf, oedd yn derbyn 18, neu hanner, yr argymhellion.

“Mae hwn yn faes cymhleth a fydd yn sefydlu’r drefn gyntaf yn y byd ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir a gallai, yn y pen draw, gwmpasu dros 20,000 o domenni sborion ledled Cymru,” meddai.

“Fodd bynnag, rwyf wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno Bil i Senedd Cymru yn ystod tymor presennol y Senedd.”

Pe bai’r bil yn cael ei basio gan y Senedd ac yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, dywed y byddai’r “gwaith yn dechrau ar unwaith i sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a darparu trefn sy’n gallu goruchwylio diogelwch tomenni yng Nghymru”.

Bil Cydsynio Seilwaith

Dyma fesur arall sydd heb ei gyflwyno i’r Senedd eto.

Cafodd pwerau pellach eu datganoli i Lywodraeth Cymru i roi cydsyniad i brosiectau seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr gan Ddeddf Cymru 2017.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar broses gydsynio newydd yn 2018, ac mae disgwyl y bydd y cynigion hyn yn llywio’r Bil Cydsynio Seilwaith.

Y syniad yw symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr.

Hydref 21 y llynedd, cadarnhaodd Julie James y byddai Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r bil erbyn tymor yr haf eleni.

“Rydym ni wedi cynnal adolygiad trwyadl fel yr argymhellodd yr archwiliad manwl, ynglŷn â thrwyddedu morol yng Nghymru, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny’n dod i gasgliad nawr,” meddai.

“Byddwn yn addasu’n Bil Cydsynio Seilwaith, fydd yn dod i’r Senedd erbyn diwedd eleni – felly, ‘tymor yr haf’ mewn ffordd o siarad.

“Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ein proses gydsynio, ond mae’n hanfodol fod gennym ni barhad o’r rheoliadau cynefinoedd oherwydd holl ddiben hyn yw cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder y darparu, fel ein bod yn gweithredu ar lwyfan byd-eang, ac amddiffyn yr amgylchedd, fel nad oes gennym ni ganlyniadau anfwriadol.”