Dydy dros hanner trigolion Cymru ddim yn debygol o wylio Coroni’r Brenin Charles, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Yn ôl y data, sy’n arolwg o 3,070 o oedolion, dim ond 48% sy’n bwriadu gwylio’r Coroni, tra dywed 52% nad ydyn nhw’n debygol o wylio.

Yn yr un arolwg, dywed 59% nad oes ganddyn nhw ddim, neu fawr ddim, diddordeb yn y Coroni.

Digon tebyg oedd y patrwm ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd hefyd, gyda 35% yn dweud nad oes llawer o ddiddordeb ganddyn nhw yn y Coroni, tra bod 29% yn nodi dim diddordeb o gwbl.

‘Byd wedi symud ymlaen cryn dipyn’

Dydy’r ffigyrau hyn ddim yn syndod i Gwern Gwynfil, Prif Swyddog Gweithredol YesCymru.

“Nid yw yn syndod o gwbl bod prin ddiddordeb yn y coroni heddiw,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r byd wedi symud ymlaen cryn dipyn ers dechrau oes Elizabeth yr ail, a does dim byd yn dangos hyn mwy na’r ffaith bod 75% o bobol 18-25 oed â dim diddordeb o gwbl yn y digwyddiad.

“Yn ddiwylliannol, mae’r holl fyd gorllewinol erbyn hyn yn gweld fwyfwy nad oes dadl foesol o blaid anrhydedd a grym trwy enedigaeth.

Dywed ei fod yn tybio bod diffyg diddordeb yn y frenhiniaeth yn gryfach yng Nghymru heddiw o gymharu â thros hanner canrif yn ôl yng nghyfnod yr arwisgiad, pan ddaeth Charles yn Dywysog Cymru.

“Prin fod unrhyw ddathliadau wedi’u trefnu ar gyfer yr achlysur, dyma newid aruthrol o gymharu gyda dyfodiad Elizabeth 70 mlynedd yn ôl, ac yn arwyddocaol o ddyfnder y newid sylfaenol yn ein hagweddau,” meddai.

“Rwy’n credu ein bod yn symud tu hwnt i bwynt lle bod perthnasedd i’r Frenhiniaeth, a hynny o safbwynt brenhinwyr a gweriniaethwyr.

“Mae’r sefydliad ar ei ffurf bresennol yn fwyfwy anacronistaidd wrth i amser fynd yn ei flaen.

“Serch hynny, mae yna ddadl enfawr y dylid ei chael ynglŷn â hynt Stâd y Goron yng Nghymru.

“Wrth gwrs, dadl gyda San Steffan a’r Trysorlys yw honno mewn gwirionedd.

“Cymru, unwaith eto, yn cael cam enfawr fan hyn gyda’n hincwm a’n cyfoeth naturiol yn cael ei ysbeilio gan Loegr, heb yr un geiniog yn dychwelyd atom; dadl gref arall o blaid Annibyniaeth wrth gwrs.”

‘Dim cariad’

O ran lle’r frenhiniaeth yn y Gymru gyfoes, dywed ei bod hi’n “debyg nad oes gan y frenhiniaeth gyfoes unrhyw ddiddordeb yng Nghymru”.

“Mae celfwaith y darn hanner can ceiniog newydd yn arwydd clir o hynny – prin fod sylw i Gymru, a’r hyn sydd yno yn sarhad bwriadol ar ein statws a’n hygrededd fel cenedl a gwlad.

“Tra nad yw YesCymru yn cymryd safbwynt ar y Frenhiniaeth, ni fydd ymddygiad y Windsors yn debygol o ennyn unrhyw gariad.”

Ar hyn o bryd, dim ond pedwar parti stryd preifat sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru ar gyfer penwythnos y Coroni, fydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn, Mai 6.