Mae tair cenhedlaeth o’r teulu Williams wedi dod ynghyd i blannu coeden ifanc prin yng Nghastell y Waun.

Coeden ifanc yw hon, sydd wedi’i thrawsblannu o dderwen wreiddiol Pontfadog, safodd yn ystod gorchfygiad Owain Gwynedd o’r Saeson, ac a ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel y goeden letaf ym Mhrydain.

Safodd derwen hynafol Pontfadog, a ddisgynnodd mewn storm yn 2013, ar Fferm Cilcochwyn, ger y Waun, Wrecsam, a chafodd hi ofal gan genedlaethau o’r teulu Morris/Williams.

Mae lle i gredu mai hi yw un o dderw mwyaf a hynaf y byd.

Yn 2013, bu i Ystâd y Goron luosogi’r Dderwen Pontfadog wreiddiol, a chafodd coeden ei phlannu yn Windsor Great Park.

Cafodd pum Derwen Pontfadog pellach eu lluosogi o’r goeden hon, gyda thair wedi’u rhoi i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gofalu am ddwy.

Y teulu Morris/ Williams

Ddoe (dydd Iau, Ebrill 13), ymunodd tair cenhedlaeth o’r teulu Morris/Williams, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i blannu’r goeden ifanc prin ar ystâd Castell y Waun, dim ond dwy filltir o’r fan lle safodd y goeden dderwen unwaith.

“Mae’r teulu wrth eu bodd fod etifeddiaeth o Dderwen Pontfadog yn parhau drwy’r goeden ifanc a thrawsblannwyd, ac yn falch fod un o’r coed ifanc yn cael ei phlannu yma yng Nghastell y Wau, yn ddigon agos i ni allu ymweld yn rheolaidd, a’i gwylio yn tyfu,” meddai Chris Morris o deulu Morris/Williams, Fferm Cilcochwyn.

Mae lle i gredu bod y dderwen rhwng 1,200 a 1,700 oed pan ddisgynnodd, ac mae’n debygol ei bod hi wedi dechrau ei bywyd fel mesen rhwng 367 O.C. ac 814 O.C.

Gwelodd ddiwedd rheolaeth y Rhufeinwyr, ac Owain Gwynedd yn goresgyn y Saeson ym Mrwydr Crogen yn 1165, ychydig o gannoedd o fedrau o’r dderwen.

Yn 1972, ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel y goeden letaf ym Mhrydain, gyda chylchfesur o 40 troedfedd a dwy fodfedd, a thaldra o 53 troedfedd.

Yn ddiweddarach yn 1996, dywedodd yr ymgynghorydd botaneg Michael Lear mewn llythyr at Jo Williams na allai ganfod cofnod o dderwen yn y byd oedd â chylchfesur mwy na’r Pontfadog.

‘Mwy na choeden’

Mae Jo Williams o Fferm Cilcochwyn wedi curadu hanes y dderwen ers dros 70 mlynedd, gan gynnwys toriadau papurau newydd a dogfennaeth swyddogol yn dyddio’n ôl i 1971, yn ogystal ag amserlen o ddigwyddiadau yn arwain yn ôl i 1165.

Roedd y goeden yn rhan fawr o deulu’r Morris/Williams.

Roedd y dogfennau wnaeth Jo Williams eu curadu yn cynnwys llythyr gan Roy Lancaster, Hillier and Sons yn cadarnhau fod y dderwen wedi’i chofnodi yn y Guinness Book of Records, toriadau papur newydd, llythyr gan Michael Lear yn cadarnhau maint ac arwyddocâd derwen Pontfadog, y Gofrestr o Goed Ynysoedd Prydain, a llythyr gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn derbyn coed ifanc Pontfadog, Tachwedd 25 1999.

“I rywun arall, mae’n bosibl mai dim ond coeden ydyw, ond roedd yn golygu mwy na hynny i ni,” meddai Jo Williams.

“Rydym wedi chwarae cuddio yno, gallech roi bwrdd a chwe chadair ynddi a chael bwyd ynddi.

“Mae cymaint o bobol wedi cerfio eu blaenlythrennau arni.

“Mae wedi bod yn gyfarwydd i mi drwy fy mywyd, ac mae gen i luniau pan oeddwn yn blentyn bach gyda fy mam yn sefyll o’i blaen i luniau ohonof ar ddiwrnod fy mhriodas yn sefyll gyda theulu a ffrindiau.”

‘Braint plannu’r goden’

Mae Keith Griffith yn Goedwigwr Arweiniol yng Nghastell y Waun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Dywed fod y goeden yn rhan o hanes a dyfodol Dyffryn Ceiriog, a’i bod yn fraint plannu’r goeden.

“Mae’n anrhydedd plannu coeden fach Pontfadog yng Nghastell y Waun, mae ei DNA wedi’i wreiddio yn hanes Dyffryn Ceiriog, wedi gwasanaethu natur, anifeiliaid a phobol yma am dros fileniwm,” meddai.

“Mae’n fraint plannu’r goeden fach ochr yn ochr ag unarddeg aelod o deulu Morris a Williams, mae gan bob un ohonynt gysylltiad dwfn â’r dderwen, ac wedi gofalu amdani fel aelod o’r teulu.

“Rydym yn gobeithio y bydd y goeden fach yn tyfu i fod yn goeden hynafol yn y dyfodol, ac mewn 200 mlynedd neu fwy, efallai y bydd pobol yn eistedd yng nghysgod y goeden yng Nghastell y Waun.”

Y Prif Weinidog yn plannu un o’r coed

Fe wnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, blannu un o’r coed ifainc yn Erddig ar Rhagfyr 9 y llynedd, ynghyd â’r Brenin Charles, er cof am y ddiweddar Frenhines Elizabeth II.

Bydd y llall yn cael ei phlannu yn y Goedlan Goffa yn Erddig.

“Mae gan y coed ifainc arbennig hyn hanes anhygoel gan eu bod wedi’u trawsblannu o dderwen fawr a hynafol – Derwen Pontfadog,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n briodol y bydd y goeden ifanc hon yn cael ei phlannu yn y Waun, yn agos i ble safodd y goeden wreiddiol fwy na 1,000 mlynedd yn ôl.

“Gobeithiaf y bydd yn tyfu’n gryf ac yn iach ac yn datblygu yn dderwen fawr ac eiconig arall, fydd yn sefyll am ganrifoedd i ddod yng Nghastell y Waun.”