Mae’r gweithlu’n dal i fod yn her allweddol i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn ôl Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl.

Bydd £3.3m ychwanegol yn cael ei roi er mwyn cefnogi gweithredu’r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol.

Caiff y cyllid ei ychwanegu at y buddsoddiad blynyddol o £2.7m, sy’n golygu y bydd y cyfanswm fydd yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun gan Lywodraeth Cymru yn codi i £6m.

Cafodd y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ei gyhoeddi’n wreiddiol fis Tachwedd y llynedd.

Yn y cynllun mae 33 o gamau gweithredu er mwyn ceisio sicrhau gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy.

Mae’n anelu at leihau’r pwysau ar wasanaethau i bobol ag anghenion iechyd meddwl difrifol, ynghyd â gwella gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.

Cafodd y cynllun – sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Gweithlu Deng mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn dilyn cyfnod o ymgysylltu helaeth.

Her gwasanaethau iechyd meddwl

“Mae gennym weithlu iechyd meddwl medrus iawn yma yng Nghymru, sy’n hanfodol i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobol,” meddai Lynne Neagle.

“Serch hynny, mae materion yn ymwneud â’r gweithlu yn dal i fod yn her allweddol i wasanaethau iechyd meddwl.

“Nod y cynllun hwn yw helpu i sicrhau gweithlu cynaliadwy ac amrywiol i ymateb i’r heriau hynny.

“Rwy’n croesawu gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu’r cynllun uchelgeisiol hwn.

“Rydyn ni’n ymrwymo’r cyllid i helpu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel rhan o’n buddsoddiad ehangach a pharhaus i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.”

‘Cefnogi ein gweithlu iechyd meddwl hollbwysig’

Mae Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn un sy’n croesawu’r cyllid ychwanegol.

“Un o gamau gweithredu ein Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol, a ddatblygwyd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, oedd datblygu’r cynllun gweithlu aml-broffesiynol hwn,” meddai.

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn am gyllid, fel y gallwn symud i gyfnod newydd o waith, gan weithredu ein camau arfaethedig ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn ein helpu i gefnogi ein gweithlu iechyd meddwl hollbwysig.”