Mae cau ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn yn “ergyd arall i bobol Bro Dysynni”, yn ôl gwleidyddion sydd wedi bod yn cyfarfod â phenaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw (dydd Gwener, Ebrill 14).

Ymhlith y rhai fu’n cyfarfod â’r penaethiaid mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, a’r Aelod Seneddol yn yr un etholaeth, Liz Saville Roberts; a’r cynghorwyr John Pughe (Morfa Tywyn), Anne Lloyd Jones (Gorllewin Tywyn), Beth Lawton (Bro Dysynni), Dewi Owen (Aberdyfi), Louise Hughes (Arthog a Llangelynnin) a Megan Reynolds (Cyngor Cymuned Aberdyfi).

Mewn datganiad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd y gwlediyddion eu bod nhw’n “rhannu siom y gymuned leol ynghylch y diffyg ymgynghori ystyrlon â phawb yr effeithir yn uniongyrchol arnynt”, a’r rheiny’n cynnwys darparwyr iechyd lleol rheng flaen a’r awdurdod lleol.

‘Argyfwng eisoes’

“Dyma ergyd arall i bobol Bro Dysynni sydd eisoes yn wynebu argyfwng mewn darpariaeth gofal iechyd,” medden nhw.

“Mae’n ddealladwy bod llawer yn amheus o addewidion i ail-agor y ward, o ystyried addewidion blaenorol nas cyflawnwyd i ailagor Uned Mân Anafiadau yr ysbyty, sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020.

“Cyfarfuom â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Gwener, 14 Ebrill, i gyfleu ein pryderon ynghylch y modd sydyn y cafodd y penderfyniad hwn ei gyfleu ac i geisio sicrwydd cadarn bod camau rhagweithiol a brys yn cael eu cymryd i gyflawni’r prinder staff ac ailagor y ward yn ddiogel.

“Dywedwyd wrthym am yr heriau a wynebir wrth recriwtio nyrsys yn ne Meirionnydd.

“Eglurodd cynrychiolwyr y bwrdd iechyd fod angen llenwi y swyddi gwag hyn er mwyn ail-agor ward cleifion mewnol yn ddiogel, a bod anawsterau cronig wrth recriwtio i’r ardal wedi arwain at benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau’r ward dros dro.”

Maen nhw’n dweud bod “ail-agor y ward cleifion mewnol yn dibynnu ar recriwtio pedwar nyrs”.

“Bwriad y bwrdd iechyd yw ail-agor y ward erbyn mis Awst – fe’i gwnaethom yn gwbl glir y bydd hyd yn oed cau’r ward dros dro yn arwain at oblygiadau eang a hirdymor ac y gallai atal staff nyrsio rhag ymgeisio am swyddi ymhellach,” meddai’r gwleidyddion wedyn.

“Pwysasom ar y bwrdd iechyd ymhellach am ddyfodol yr Uned Mân Anafiadau a dywedwyd wrthym am ymrwymiad i ailagor yr uned – ond eto, mae’n dibynnu ar recriwtio pedair nyrs gofrestredig ychwanegol.

“Mae cyfanswm o wyth nyrs gofrestredig ei angen er mwyn ail agor y ddwy uned.”

‘Dim bwriad i gau’

Yn ôl y gwleidyddion, cawson nhw wybod nad oedd “unrhyw fwriad i gau Ysbyty Tywyn”.

“Codwyd hefyd rinweddau cyfleusterau yn ysbytai Dolgellau a Thywyn a sut yr oeddent yn cymharu,” medden nhw.

“Dywedwyd wrthym yn bendant nad oes unrhyw fwriad i gau Ysbyty Tywyn.

“Cytunodd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’n galw am amserlen glir ar gyfer ailagor y ward cleifion mewnol a’r Uned Mân Anafiadau, ynghyd â briff manwl o strategaeth y bwrdd iechyd i recriwtio staff nyrsio a sut y bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu.

“Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd bob pythefnos gyda swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’n galluogi i ddiweddaru trigolion yr ardal a wasanaethir gan Ysbyty Tywyn.

“Mae pobol Bro Dysynni yn haeddu dim llai.”