Mae teimlad o ryddhad fod Cyngor Sir Ceredigion wedi ffafrio opsiwn fydd yn golygu cadw’r Chweched Dosbarth ar agor mewn chwe ysgol.
Roedd perygl y gallai chweched dosbarth chwe ysgol yn Aberaeron, Llanbed, Aberteifi, Llandysul ac Aberystwyth gau, wedi i Gyngor Sir Ceredigion ddweud nad yw cyllid Llywodraeth Cymru’n ddigon i’w cadw fel ag y maen nhw.
Serch hynny, maen nhw hefyd wedi cymeradwyo cynnig i gynnal ymchwiliad pellach er mwyn ystyried mwy ar y posibilrwydd o sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy o safleoedd – sef yr opsiwn arall oedd yn cael ei ystyried.
‘Hanfodol’ dewis yr opsiwn hwn
Yn ôl Ann Bowen Morgan, cynghorydd sir Llanbed sy’n cynrychioli Plaid Cymru, roedd y penderfyniad i gadw’r Chweched Dosbarth ar agor yn “hanfodol” er budd yr iaith a’r gymuned.
“O ran yr opsiynau, [dw i] yn bendant cytuno efo Opsiwn 2 i gadw’r Chweched Dosbarth yn yr ysgolion i gyd,” meddai wrth golwg360.
“Yn Llanbed, mae’r Chweched Dosbarth yn bwysig, nid yn unig o ran arwain yn yr ysgol, ond i’r gweithgareddau maen nhw’n eu gwneud yn y gymuned.
“Mewn ardal fel hyn, mae nifer o Glybiau Ffermwyr Ifanc, ac mae’r Chweched Dosbarth yn rhan o hynny.
“Tasen nhw’n gorfod teithio’n bell i fynd i un coleg, fydden nhw ddim yn gallu bod yn ôl i fynd i’r gweithgareddau yma a gwneud pethau felly.
“Mae [Ysgol Bro Pedr] wir eisiau cadw’r Chweched Dosbarth.
“Ym Mro Pedr, criw’r Chweched, prif swyddogion a phethau, Cymry ydyn nhw i gyd a nhw sy’n arwain – efallai oherwydd eu [hymwneud] efo’r Ffermwyr Ifanc, dw i ddim yn gwybod.
“Ond nhw sydd yn creu radio cymuned, radio i’r ysgol, a phethau felly.
“Tasen nhw mewn coleg chweched dosbarth ymhell i ffwrdd, fydden nhw ddim yn gallu creu hynny.
“Mae’r cyfrwng Cymraeg mor bwysig o fewn yr ysgolion yma; mae radio ym Mro Pedr sy’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg amser cinio ac ati, a’r Chweched sy’n llwyr gyfrifol am hynny.”
‘Mwy o gydweithio’
Mae’r opsiwn sydd wedi’i ffafrio hefyd yn golygu creu Bwrdd Strategol i reoli cyllideb addysg ôl-16 yr awdurdod, a sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r Cwricwlwm rhwng y chwe ysgol.
“O ran y Bwrdd Strategaeth, os mai dyna’r unig ffordd bod y Chweched Dosbarth yn aros – ie, iawn,” meddai Ann Bowen Morgan.
“Roedden ni yn y pwyllgor craffu, er enghraifft, eisiau’r penaethiaid i gyd ar y Bwrdd Strategaeth, a sôn hefyd efallai am gael cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr pob ysgol hefyd fel bod yna ddim rhywun o’r tu allan yn rheoli beth sy’n digwydd.
“Roedd yna boeni ychydig bach efallai y bydd yna gost ychwanegol efo hyn, os ydyn nhw’n gorfod dod â rhywun mewn.”
Canolfan Ragoriaeth dal ar y bwrdd?
Yn wreiddiol, roedd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried pedwar opsiwn ar gyfer darpariaeth addysg ôl-16, ond cafodd y rheiny eu torri i lawr i Opsiwn 2 ac Opsiwn 4.
Byddai Opsiwn 4 yn golygu cau’r Chweched Dosbarth, a sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy o safleoedd.
Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, penderfynodd y cynghorwyr gynnal ymchwiliad pellach i’r posibilrwydd.
“Roeddwn i wedi gobeithio y byddai o’n cael ei daflu allan yn llwyr,” meddai Ann Bowen Morgan.
“Mewn sir fel Ceredigion, dw i ddim yn gweld y byddai un ganolfan yn bosib; pobol yn gorfod teithio awr o un lle i’r llall.
“Dwy ganolfan, o bosib, ond mae hwnna’n mynd i gostio arian wedyn.
“Dw i ddim yn meddwl y gwneith o weithio mewn lle [gwledig] – mewn dinas, iawn, ond dim mewn lle fel hyn.
“Roedd rhywun yn sôn y diwrnod o’r blaen y byddai’n cymryd blynyddoedd i ddod i hynny beth bynnag – naw mlynedd, math o beth.
“Mae o dal ar y bwrdd, ond ar gyfer y dyfodol pell dw i’n meddwl ydy hynny.”
‘Cryfhau ysgolion gwledig’
Dywed Jeff Smith, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, wrth golwg360 eu bod nhw’n falch fod y Cyngor yn “ailystyried ac yn barod i wrando”.
“Byddai canoli darpariaeth wedi gallu effeithio ar ddarpariaeth Gymraeg, tra bod cydweithio rhwng ysgolion a chynnal addysg mewn cymunedau, fel sy’n fwriad gan y Cyngor, yn gyfle i gryfhau’r ddarpariaeth,” meddai.
“Rydyn ni’n obeithiol y bydd Cyngor Ceredigion yn ystyried ysgolion gwledig yn yr un ffordd, ac yn gweld cyfle i’w cryfhau a’u datblygu a chydweithio gyda chymunedau.”
Gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n penderfynu aros i fynd i’r chweched dosbarth, a chostau cynyddol rhedeg cyrsiau ôl-16, sy’n gyfrifol am benderfyniad Cabinet Cyngor Ceredigion i ailystyried y ddarpariaeth yn y lle cyntaf.