Mae bron i £600,000 mewn grantiau wedi’i ddyfarnu i ddeg grŵp yn sir Benfro, drwy gyllid gafodd ei godi drwy’r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi.
Cafodd y cynnig i ddyfarnu’r arian ei gymeradwyo gan uwch-gynghorwyr yr wythnos hon.
Yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor Sir, ystyriodd aelodau ddeg cais am gyllid drwy Geisiadau Grantiau Mawr Gwella Sir Benfro.
Mae ceisiadau’n cael eu gwerthuso ar sail pwyntiau.
Roedd un cais, gan Glwb Tenis Hwlffordd, wedi methu am mai dim ond 19 pwynt dderbyniodd e, yn hytrach na’r ugain pwynt angenrheidiol.
Mae Grant Gwella Sir Benfro, gafodd ei lansio yn 2018, yn cefnogi cymunedau lleol, ac mae wedi’i ariannu gan gyfran o’r arian sydd wedi’i godi gyda’r premiwm ar ail gartrefi.
Hyd yn hyn, mae Cyngor Sir Benfro wedi dyfarnu £4,482,374 i 272 o brosiectau, sydd wedi denu £4,948,984 pellach mewn arian cyfatebol.
Mae’r grant, felly, wedi buddsoddi cyfanswm o £9,431,358 yng nghymunedau sir Benfro.
Ceisiadau
Fis Gorffennaf y llynedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Penfro i gyflwyno panel grantiau dan arweiniad swyddogion, fyddai’n penderfynu canlyniad ceisiadau dan £15,000, gyda’r rheiny hyd at £100,000 yn mynd gerbron y Cabinet.
Fe ystyriodd y panel grantiau mewnol ddeg cais, a chafodd un ei feirniadu am gyrraedd ychydig yn hwyr, ond fe lwyddodd y naw arall i gyrraedd y trothwy meini prawf o ugain pwynt neu fwy.
Dywedodd adroddiad ar gyfer aelodau fod tan-wariant y llynedd o £274,326 wedi’i ychwanegu at ddyraniad o £400,000 eleni.
Mae’r naw prosiect, sydd werth £766,434 i gyd, wedi gofyn am gefnogaeth grant o £560,032.31.
Mae Prosiect Pobol Ifanc Abergwaun ac Wdig wedi gofyn am £77,106 ar gyfer prosiect sydd werth £96,383 er mwyn helpu pobol ifanc rhwng 11 a 25 oed i godi’u hunanhyder a gwella’u sgiliau cyflogaeth drwy weithgareddau ac addysg gydol oes.
Mae’r corff datblygu celfyddydol Gofal wedi gofyn am £56,695 ar gyfer prosiect sydd werth £70,868 ar gyfer rhaglen ddawns a pherfformio gynhwysol i blant ac oedolion ag anawsterau dysgu.
Roedd Prosiect Ieuenctid a Chymunedol Garth yn Hwlffordd am dderbyn £73,069.90 ar gyfer prosiect sydd werth £91,337 er mwyn gwella lles corfforol a meddyliol pobol ifanc drwy chwaraeon, gemau a gweithgareddau bwyd.
Fe gyrhaeddodd cais y grŵp trafnidiaeth PACTO ychydig yn hwyr; roedden nhw’n gofyn am £39,991 ar gyfer prosiect sydd werth £50,535 er mwyn medru cyflawni targedau Llywodraeth Cymru i gael trafnidiaeth heb allyriadau erbyn 2035.
Eu bwriad oedd prynu a rheoli ‘Bws Gwyrdd’ yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield yn Arberth; byddai hyn yn ganolbwynt i brosiect net sero yn Sir Benfro, ac yn hyrwyddo trafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy i’r rheiny sydd â thraffethion symudedd neu sy’n wynebu rhwystrau eraill rhag defnyddio trafnidiaeth gonfensiynol.
Roedd yr elusen Acts West Wales yn Erw Cilrath yn dymuno derbyn £46,992 o’r £62,092 sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer prosiect tyfu newydd i’r gymuned, fydd yn rhoi cyfle i bobol dyfu bwyd, dysgu sgiliau newydd, a chyfarfod â phobol eraill.
Fe ofynnodd Cadetiaid Morol Abergwaun am £50,000 o’r £70,000 sydd ei angen arnyn nhw er mwyn sicrhau’r hawl i’r tir cyfagos, er mwyn cynnig hyfforddiant awyr agored sy’n fwy diogel a threfnus.
Mae Clwb Criced Doc Penfro wedi gofyn am £58,400 o’r £73,000 sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer ystafelloedd newid newydd, am nad yw’r rhai presennol yn cynnig mynediad cynhwysol nac yn medru cael eu hatgyweirio.
Mae Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro, PLANED, sy’n cydlynu cynhyrchwyr, tyfwyr, cyrff a chymunedau er mwyn creu system fwyd gynaliadwy yn Sir Benfro, wedi gofyn am £57,779.17 ar gyfer prosiect gwerth £72,224.
Cafodd y cyllid mwyaf ei ddyfarnu i Gyngor Cymunedol Cilgeti Begeli, oedd wedi gofyn am £100,000 ar gyfer cynllun sydd werth £179,995 er mwyn creu parc chwarae fydd yn gwella’r pentref ac hygyrchedd i gymunedau ehangach, gan gynnwys safle Teithwyr a Sipswn Comin Kingsmoor.
Roedd un cynnig gan Glwb Tenis Hwlffordd wedi methu’r meini prawf; roedden nhw’n gofyn am £31,208 o gyllid ar gyfer cynllun sydd werth £39,207.72 er mwyn cael llifoleuadau a mynediad cadair olwyn.
Mae’r cynnig hwnnw hefyd yn rhan o gais cynllunio cyfredol, a byddai’r cynllun yn buddio aelodau’r clwb yn unig, yn ôl yr adroddiad.
Wedi apêl gan y Cynghorydd Paul Miller, dirprwy arweinydd y Cyngor, fe gytunodd aelodau i gynnwys cais y clwb tenis, yn ddibynol ar dderbyn caniatâd cynllunio, a bod y cais yn cynnwys polisi iaith Gymraeg.
Fe gefnogodd aelodau gynnig i ddyfarnu cyllid i bob un o’r deg prosiect, am gyfanswm o ryw £590,240.
200% yw cyfradd y premiwm ar y dreth gyngor ar ail gartrefi yn sir Benfro, ac fe fydd yn cael ei ostwng i 150% yn y flwyddyn ariannol newydd.