Er mor agos oedd y polau piniwn yn wythnosau olaf y ras etholiadol yn America, mae’n siŵr bod clywed y canlyniadau wedi bod yn syndod i nifer yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae’n anodd amgyffred y ffaith fod y Gweriniaethwr Donald Trump – dyn mor ymfflamychol sydd wedi’i ganfod yn euog o droseddau droeon, ac sydd wedi ymddwyn mor warthus at fenywod a mewnfudwyr, yn medru apelio at fwyafrif o bleidleiswyr yr Unol Daleithiau.
Ond yn ôl Maxine Hughes, mae’n bwysig cofio ein bod ni wedi bod yn yr un sefyllfa o’r blaen, wyth mlynedd yn ôl.
Mae’r newyddiadurwr a darlledwr o Gonwy, sydd bellach yn adnabyddus am gynnig gwersi Cymraeg i Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar eu rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham, wedi bod yn siarad â golwg360 am sut y dylid dehongli canlyniadau’r etholiad.
“Gofyn yr un cwestiwn ag yn 2016 ydyn ni,” meddai, wrth ateb y cwestiwn hwnnw.
“Dyma’n union roedden ni’n ei holi pan gollodd Hillary Clinton bryd hynny.”
Pam, felly, fod cynifer o bobol wedi proffwydo’n anghywir mai’r Democrat Kamala Harris fyddai’n ennill, neu wedi methu rhagweld beth fyddai’r canlyniad, dro ar ôl tro?
“Mae America mor fawr,” meddai.
“Mae taleithiau fel Kentucky mor wahanol i unrhyw beth sy’n gyfarwydd i ni yn y Deyrnas Unedig.”
Mae’n hawdd anghofio weithiau pa mor amrywiol ydy America mewn gwirionedd, meddai, ac felly pa mor hawdd ydy hi i greu un ddelwedd o’r wlad, sydd ddim yn gynrychiolaeth iawn o weddill y wlad.
‘Popeth yn ei herbyn hi o’r cychwyn’
Un prif reswm sydd dros fuddugoliaeth Donald Trump – a methiant Kamala Harris – mewn gwirionedd.
“Dydy America ddim yn barod i gael menyw’n arlywydd,” meddai Maxine Hughes.
“Roedd hynny’n amlwg i fi wedi’r etholiad yn 2016, ac mae hynny’n amlwg i fi heddiw.
“Mae llawer yn iawn o hiliaeth yma – ond hyd yn oed yn fwy o rywiaeth; dw i wedi gweld hynny’n hunan, hyd yn oed yn Washington D.C.”
Yn ôl polau piniwn cyn yr etholiad, roedd y bleidlais yn addo bod yn rhanedig iawn o ran rhywedd – roedd dynion du, sy’n draddodiadol yn rhan o glymblaid y Democratiaid, yn dechrau troi tuag at y Blaid Weriniaethol.
Er nad oes dadansoddiad llawn o’r canlyniadau wedi’i gyhoeddi eto, mae’n siŵr nad oedd y colledion posib hyn yn galonogol i Kamala Harris, y fenyw ddu gyntaf i fod yn un o’r ceffylau blaen ymhlith ymgeiswyr arlywyddol.
“Roedd popeth yn ei herbyn hi o’r cychwyn,” meddai Maxine Hughes.
“Roedd lliw ei chroen a’i rhyw, yn anffodus, yn anfantais iddi.
“Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, lle mae tair menyw wedi bod yn Brif Weinidog, menywod ar y dde sy’n ennill – felly mae menyw ar y chwith yn ymddangos yn llawer rhy eithafol.”
“It’s the economy, stupid” – unwaith yn rhagor
Ond un peth yn unig oedd o bwys i bleidleiswyr America, yn y bôn, sef yr economi.
“Roedd y cyfryngau’n sôn am bob math o bethau cyn yr etholiad – am erthyliad, am ddemocratiaeth, felly mae’n siŵr bod dryswch gan lawer o bobol am effaith y ffactorau yma ar y canlyniadau,” meddai Maxine Hughes wedyn.
“Ond beth sy’n bwysig i bobol pan maen nhw’n sefyll yn y blwch pleidleisio ydy faint o arian sy’n eu waledi nhw.
“Roedd neges Kamala Harris ar yr economi wedi bod yn wan, ac roedd llawer o rwystredigaeth am chwyddiant a diffyg codiadau cyflog yn ystod arlywyddiaeth Joe Biden.
“Roedd Trump, ar y llaw arall, yn trafod yr economi o hyd ac o hyd, ac mae’r argraff gan lawer o Americanwyr ei fod e’n ddyn busnes craff.”
Polareiddio
Does dim modd gwadu effaith polareiddio, chwaith.
Unwaith yn rhagor, mae’n ymddangos bod y Democratiaid wedi ennill ymhlith carfan benodol o raddedigion dosbarth canol, ac wedi colli gafael ar y gweddill.
Ai dim ond pobol sydd heb fynd i’r brifysgol sydd wedi’u swyno gan Trump, felly?
Mae Maxine Hughes yn awgrymu nad dyna’r gwir i gyd.
“Mae’r cyfryngau’n chwarae rôl anferthol, ar y ddwy ochr, yn cyflyru beth mae pobol yn ei gredu.
“Mae’n rhaid cofio bod y cyfryngau sydd o blaid Kamala [y papurau newydd a’r sianeli teledu mwy asgell chwith neu gymhedrol] yn chwarae rôl fawr yn ei hymgyrch hi; mae’n wahanol iawn i Brydain, lle mae cyfryngau mwy niwtral yn bodoli.”
Yn yr un modd, meddai, “does dim ffordd i gredu’r hyn mae’r polau piniwn yn ei ddweud”.
Yn wahanol i wledydd Prydain, eglura, yr ymgyrchoedd gwleidyddol sy’n comisiynu’r polau, ac felly “mae’r arolygon barn wastad yn bleidiol”.
Gwlad y Farchnad Rydd
Mae cwmnïau arolygon barn yn gorfod cystadlu â’i gilydd er mwyn cael y canlyniad fydd yn plesio’r rhai sy’n talu’r swm mwyaf am yr ymgyrchoedd gwleidyddol.
“Mae America yn wlad gyfalafol yn fwy na dim – felly mae’r etholiad yn gyfalafol,” meddai Maxine Hughes.
Mae hyn yn wir am benderfyniadau Americanwyr wrth iddyn nhw bleidleisio hefyd.
“Mae’n system ddwy blaid yn America, felly os oes rhywun sydd ddim yn hoffi Trump na Kamala, maen nhw’n aml yn meddwl, ‘Ydw i’n uniaethu â’r chwith neu’r dde orau?’
“Yn ariannol, polisïau asgell dde sy’n apelio at y rhan fwyaf o Americanwyr – hyd yn oed y rheiny fyddai’n niwtral am gwestiynau cymdeithasol a diwylliannol.”
‘Mudiad diwylliannol ydy MAGA’
Ond mudiad diwylliannol sydd wrth wraidd MAGA, sef craidd cefnogaeth Trump, meddai Maxine Hughes.
“Dydy mudiad Trump ddim yr un fath â’r Blaid Weriniaethol; mae’n eithafol ac yn mynd ar ôl grwpiau yn America sy’n teimlo eu bod nhw ar goll.
“Mae’n fudiad diwylliannol, nid dim ond yn fudiad gwleidyddol.”
Beth yw’r mudiad diwylliannol hwnnw, felly?
“Grŵp o gredoau hynod ynysig a cheidwadol,” meddai.
“Mae Cristnogaeth Efengylaidd yn elfen hynod bwysig.
“Maen nhw’n bobol sy’n ofni newid ac sy’n credu bod ffordd benodol i fyw ac i drefnu teulu, ac maen nhw’n teimlo’n saffach gyda Trump yn y Tŷ Gwyn.”
‘Cam arall mewn ‘Unol Daleithiau’ sy’n rhannu’
“Dydy Trump ddim yn mynd i uno’r wlad, fel y gwnaeth e addo yn ei araith fuddugoliaeth e,” ydy proffwydoliaeth Maxine Hughes am y dyfodol o dan y darpar Arlywydd.
“Cam arall mewn Unol Daleithiau sy’n rhannu ydy hwn.
“Mae’r enw’n dechrau edrych yn eironig, tydy?”
Mae’n credu y bydd ymateb chwyrn gan fudiadau yn y taleithiau gleision hefyd.
“Mae’n rhaid cofio mai ychydig iawn o rym dros fywydau pobol ar lawr gwlad sydd gan y llywodraeth ffederal yn America.
“Mae llawer iawn o benderfyniadau bob dydd yn cael eu gwneud yn y dalaith – mwy nag sydd yn systemau datganoledig y Deyrnas Unedig, hyd yn oed.
“Be ydyn ni’n mynd i weld dros y pedair blynedd nesaf ydy mwy o benderfyniadau ar lefel y taleithiau; os ydych chi’n byw mewn talaith las, bydd bywyd bob dydd yn cael ei benderfynu ar lefel leol, ac efallai fydd dim llawer yn newid.”
Mae hi’n rhagweld dyfodol anghynnes i’r Unol Daleithiau, felly.
“Mae’r wlad yma’n gwahanu – dyw hi ddim yn amhosib y bydd Califfornia’n ceisio dod yn wladwriaeth annibynnol yn y 30 mlynedd nesaf, oherwydd maint ei heconomi hi a’r gwahaniaeth gwleidyddol amlwg sydd rhyngddi hi a’r taleithiau coch.”
Dylanwad Musk yn ‘ddychrynllyd’
Ond mae modd dod o hyd i un gwahaniaeth allweddol rhwng yr etholiad hwn a’r ddau etholiad ddiwethaf – a dyn o Califfornia ydy hwnnw.
“Dyna sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr ers pedair blynedd yn ôl – y ffaith bod Elon Musk wedi ariannu Donald Trump eleni, a bod Trump heb gael ei sensro ar wefan X [sy’n eiddo Musk] oherwydd hynny,” meddai Maxine Hughes.
“Mae’n ddychrynllyd bod rhywun fel Musk yn medru cael dylanwad ar etholiadau.
“Mae Musk yn fwy pwerus, ac yn fwy peryglus na Donald Trump.
“Dyna ydy fy mhryder mwyaf i wedi’r etholiad hwn.”