Mae’r penderfyniad i gau Canolfan Ymwelwyr a chaffi canolfan feicio Coed y Brenin ger Dolgellau yn “newyddion ofnadwy” ac yn “ergyd i’r economi leol”, yn ôl gwleidyddion Plaid Cymru sy’n cynrychioli’r ardal.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu cau’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi, wrth iddyn nhw geisio torri costau cynnal y safle.
Ond bydd y ganolfan yn parhau i groesawu ymwelwyr i gerdded, beicio a chwarae, a bydd y maes parcio a’r toiledau’n aros ar agor hefyd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw’n wynebu nifer o “heriau ariannol”, gan gynnwys gorfod cael gwared ar 233 o swyddi a cheisio arbed £12m erbyn 2025-26.
Ymgyrch
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal fis Chwefror i drafod dyfodol y ganolfan yng Nganllwyd ger Dolgellau – y gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain pan agorodd ei drysau yn 1996.
Mae’n cynnig gwasanaethau i bobol leol ac ymwelwyr i gefnogi’r profiad o fwynhau rhwydwaith enfawr o lwybrau beicio mynydd sydd wedi’u lleoli mewn coedwig.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ystyried cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yng Ngheredigion.
Roedd cefnogaeth wedi bod yn cynyddu ar-lein, wrth i’r gymuned feicio ymhell ac agos ddod i glywed am adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ymhlith y rhai fu’n ymgyrchu dros ddyfodol y ganolfan mae’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths; Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Dafydd Caradog Davies, sylfaenydd traciau beic Coed y Brenin; y beiciwr lleol Rhys Llywelyn; ac Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
‘Ased lleol gwerthfawr’
Yn dilyn y penderfyniad yr wythnos hon, mae Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor a’r Cynghorydd Delyth Lloyd-Griffiths wedi mynegi eu siom.
“Mae hyn yn newyddion ofnadwy i Goed y Brenin, y staff, a phawb sy’n rhan o’r ymgyrch i atal cau’r ased lleol gwerthfawr hwn,” meddai’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths.
“Mae hefyd yn ergyd i’r economi leol a’r economi ymwelwyr ym Meirionnydd, y mae Coed y Brenin yn cyfrannu’n sylweddol tuag ato.
“Rwy’n siomedig iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mor gyndyn i weithio gyda grwpiau lleol i chwilio am ateb pragmatig, i gadw’r ganolfan ar agor a chaniatáu i’r gymuned gyflwyno cynllun busnes hyfyw i gymryd drosodd y gwaith o redeg y ganolfan safle.
“Bydd y bobol yr wyf yn eu cynrychioli wedi’u syfrdanu gan y newyddion hwn, yn ogystal â’r rhai sy’n dod o bell ac agos i fwynhau’r cyfleoedd hamdden a chymdeithasol sydd gan y ganolfan o safon fyd-eang hon i’w chynnig.
“Rwy’n dal yn ddiysgog yn fy marn fod dyfodol Coed y Brenin yn nwylo’r gymuned leol, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r grŵp lleol Caru Coed y Brenin i yrru hyn yn ei flaen.”
‘Ergyd drom’
Yn ôl Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, a Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros yr etholaeth, mae’r newyddion yn “ergyd drom, yn bennaf oll i staff gwasanaeth manwerthu ac arlwyo Coed y Brenin sydd wedi gweithio’n ddiwyd dan gwmwl o ansicrwydd ers misoedd”.
“Ond hefyd i’r gymuned ehangach sydd wedi brwydro’n galed i wrthsefyll y cau hwn,” medden nhw.
“Rydym wedi dadlau o’r cychwyn mai yn nwylo’r gymuned leol y caiff dyfodol hirdymor Coed y Brenin ei wasanaethu orau, ond yn anffodus rydym wedi canfod ein hunain mewn sefyllfa lle mae anghenion y gymuned leol yn cael eu diystyru, er gwaethaf cefnogaeth aruthrol.
“Rydym wedi annog Cyfoeth Naturiol Cymru dro ar ôl tro i ymgysylltu’n adeiladol â’r grŵp lleol Caru Coed y Brenin sydd mewn sefyllfa dda i gymryd drosodd y gwaith o redeg y safle.
“Mae pobol Coed y Brenin a’r cyffiniau wedi gwneud Coed y Brenin yr hyn ydyw, a dylai Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ill dau gadw hyn mewn cof wrth dendro am berchnogaeth yn y dyfodol.
“Mae’n anffodus iawn na roddwyd digon o amser i ganiatáu i grwpiau lleol gyflwyno cynlluniau busnes yn ffurfiol, er i Cyfoeth Naturiol Cymru ein sicrhau ym mis Chwefror na fyddai dim yn digwydd am ddwy neu dair blynedd.
“Mae cau’r adnodd gwych hwn yn cael ei ruthro drwodd heb ymgynghori a chraffu ystyrlon, a heb fawr o sylw i’r effaith ar yr economi leol ac ymwelwyr.
“Mae Coed y Brenin yn frand gwych sy’n gofyn am fuddsoddiad a datblygiad gwirioneddol, wedi’i ysgogi gan y rhai sydd â’r arbenigedd a’r wybodaeth i harneisio potensial y safle.
“Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gweithio’n agored ac yn greadigol gyda chymunedau lleol i sicrhau bod adnoddau gwerthfawr megis Coed y Brenin yn parhau i wasanaethu pobol leol ac economi ymwelwyr Meirionnydd fel ei gilydd.”