Mewn edefyn ar X (Twitter gynt), mae’r canwr Al Lewis wedi bod yn cymharu buddugoliaeth Donald Trump yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau gyda’r frwydr yn erbyn ail gartrefi Cymru.
Dywed fod canlyniad yr etholiad wedi’i adael yn teimlo “cymysgedd llawn o emosiynau”, a bod yna raniad amlwg rhwng y rhai sy’n byw yn y trefi a’r dinasoedd a’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad.
“Mae’r pleidleiswyr gwledig wedi tueddu mwy tuag at y Gweriniaethwyr, a’r pleidleiswyr trefol tuag at y Democratiaid,” meddai’r canwr o Bwllheli.
“Dw i’n sylweddoli bod llawer mwy ar waith yma, ond maddeuwch i mi tra ’mod i’n canolbwyntio ar yr un mater yma.
“Dw i ddim yn meddwl bod y gwahaniaeth yma o ran bydolwg cymunedau gwledig a threfol yn ecsgliwsif i America. Dw i’n ei weld yma yng Nghymru.
“Mae’n un o’r rhesymau y gwnes i sgwennu’r gân hon, ‘The Farmhouse’.
“Mae hi amdan sut mae ein cymunedau gwledig wedi cael eu gwagio dros genedlaethau olynol, a sut mae unigolion fel fi wedi gadael i geisio gwaith a heb ddychwelyd, am lu o resymau.”
‘Ni a Nhw’
Mae gwagio cymunedau yn “gwaethygu’r broblem ‘Ni a Nhw’ a’r teimlad bod y cymunedau gwledig hyn yn cael eu gadael ar ôl”, meddai Al Lewis wedyn.
Ond dywed mai’r un yw’r broblem ym mhob ardal.
“Gallwn i fod wedi sgwennu’r gân hon am Cumbria, Cernyw, Ucheldir yr Alban, yr un yw’r patrwm,” meddai.
“Mae llawer o’r rhai ifainc yn gadael a dydyn nhw ddim yn dod yn ôl.
“Mae’r rhai sy’n aros yn teimlo’u bod nhw’n cael eu hanwybyddu.
“Mae’r cyfoeth yn cronni yn y canolfannau trefol ac mae’r patrwm yn cael ei ailadrodd.”
Yr ateb
Ond “beth yw’r ateb?” gofynna wedyn.
“Dw i ddim yn siŵr fy mod i’n gwybod, ond un peth dw i yn ei wybod ydy y gall empathi fynd yn bell.
“Deall sut mae’r cymunedau hyn yn teimlo, a gwrando arnyn nhw.
“Wrth ysgrifennu’r gân hon, roeddwn i eisiau gwneud pobol yn ymwybodol, yn fy achos penodol i o ran lle ces i fy magu, mai’r iaith Gymraeg sy’n dioddef yn yr ymfudiad trefol hwn.
“Mae siaradwyr Cymraeg ifainc yn gadael ac yn cael eu disodli yn aml iawn, ar y cyfan, gan berchnogion ail gartrefi neu bobol sy’n ymddeol ac sy’n siarad Saesneg.
“Twristiaeth ydy anadl einioes yr ardaloedd hyn, ac felly mae’n teimlo fel cosbi’n hunain wrth sôn am fesurau i’w hannog nhw i beidio dod / ymgartrefu.”
Mwy na dim ond Cymru
Ond dywed fod y broblem yn bodoli y tu allan i Gymru hefyd.
“Mae etholiad yr Unol Daleithiau yn dangos bod y broblem hon yn fwy nag y gall yr un ohonom ei amgyffred,” meddai.
“Gadewch i ni achub ar y cyfle hwn i wrando ac i werthfawrogi bod angen i’n cymunedau gwledig ffynnu, neu bydd bywydau PAWB ohonom yn llawer tlotach.”