Roedd Elon Musk “wedi prynu Twitter ar bwrpas” er mwyn helpu Donald Trump i ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ôl academydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn 1992, fe wnaeth The Sun gymryd y clod am fuddugoliaeth annisgwyl y Ceidwadwyr a John Major yn erbyn Neil Kinnock a’r Blaid Lafur, a’r pennawd ar y dudalen flaen oedd “It’s The Sun Wot Won it“.
32 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r biliwnydd technolegol Elon Musk ar reng flaen gwleidyddiaeth yr ochr draw i’r Iwerydd, sydd efallai’n dangos graddfa’r trawsnewidiad o gyfryngau “traddodiadol” i rym y cyfryngau ar-lein.
Ond a oes modd dweud â sicrwydd mai dylanwad Elon Musk ar ymgyrch y Gweriniaethwr Donald Trump oedd y prif reswm tu ôl i’w lwyddiant ysgubol yn yr etholiad arlywyddol?
Yn ôl yr Athro Andrea Calderaro, sy’n ddarlithydd Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd Elon Musk yn ryw fath o “game changer” i ymgyrch y darpar Arlywydd wrth guro’r Democrat Kamala Harris.
“Does dim dadlau bod y cysylltiad efo grym a phŵer economaidd Elon Musk wedi cael effaith fawr (ar yr etholiad),” meddai wrth golwg360.
‘Prynu Twitter ar bwrpas’
Bu Elon Musk yn llwyddiannus yn ei ymgyrch i brynu Twitter, neu X erbyn hyn, yn 2022.
Fe brynodd y cwmni am $44bn, ymhell dros yr amcanbris gafodd ei roi gan nifer o arbenigwyr ar y pryd.
“Wrth edrych yn ôl, mae’n bosib fod Elon Musk wedi prynu Twitter ar bwrpas,” meddai Andrea Calderaro.
“Oherwydd, bryd hynny, doedd Elon Musk ddim yn gefnogwr Donald Trump, nac unrhyw wleidydd arall.
“Ar ôl prynu Twitter, ddaru fo gael gwared ar y teclynnau oedd gan y cwmni i ddelio efo dadwybodaeth (disinformation) – a hynny yn enw rhyddid barn.”
Mae’n dadlau bod hyn wedi cael effaith sylweddol, gan fod y rhyddid barn yma wedi galluogi mwy o bobol a sefydliadau i rannu “newyddion ffug”.
Yn ystod yr unig ddadl rhwng Kamala Harris a Donald Trump cyn yr etholiad arlywyddol, bu’r darpar Arlywydd yn rhannu stori gwbl ddi-sail fod mewnfudwyr yn lladd a bwyta cathod yn Ohio – stori oedd wedi deillio’n wreiddiol o’r llwyfan digidol Discord ac a gafodd ei rhannu wedyn ar X.
Felly does dim amheuaeth fod cael gwared ar y teclynnau hyn wedi helpu Donald Trump i ledaenu newyddion ffug yn ystod yr ymgyrch, er mwyn helpu ei frwydr i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau unwaith eto.
‘Mwy parod i ddelio gyda dadwybodaeth’
Wrth siarad â golwg360, dywed Andrea Calderaro nad oes esgus am ddadwybodaeth ar y platfformau digidol, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol.
“O gymharu â 2016, roedd yna wahaniaeth enfawr eleni,” meddai.
“Yn 2016, roedd y byd yn gwbl amharod i ddelio ag effaith negyddol y cyfryngau cymdeithasol ar etholiadau.
“Bryd hynny, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu croesawu fel teclyn i helpu i sicrhau bod lleisiau pobl yn y lleiafrifoedd yn cael eu clywed.”
Yn 2016, roedd etholiad arlywyddol rhwng Hillary Clinton a Donald Trump, ac hefyd y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.
Trwy’r refferendwm y daeth y rhan fwyaf o’r sylw i ddadwybodaeth, gan gynnwys achos Cambridge Analytica, lle cafodd ei brofi bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad.
“Hwn oedd yr achos ddaru wir gyfleu i’r byd y dylanwad mae ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu’i chael ar y canlyniad terfynol,” meddai Andrea Calderaro.
“Y tro hwn, roedden ni’n llawer mwy parod i ddelio efo’r agweddau yma ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny ar gyfer etholiadau yn yr Unol Daleithiau ac yn yr Undeb Ewropeaidd.”
Prif bwrpas mynd i’r afael â’r broblem yn y cyd-destun hwn yw lleihau effaith ymgyrchoedd anghyfreithlon gan Rwsia, ond dywed Andrea Calderaro nad yw hi mor hawdd ymdrin â rhywun fel Elon Musk, ac yntau’n berchen ar gyfrwng cymdeithasol.
Mae’r tebygolrwydd y bydd unrhyw fath o reoleiddio yn y maes cyfryngau cymdeithasol yn yr Unol Daleithiau bellach wedi lleihau’n sylweddol.
Ond mae’r Undeb Ewropeaidd, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Bil Diogelwch Ar-lein, yn dangos awch i fynd i’r afael â’r broblem yr ochr yma i’r Iwerydd.