Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ailwerthuso’r fflyd newydd gyfan o drenau Trafnidiaeth Cymru, yn dilyn y gwrthdrawiad trên ym Mhowys fis diwethaf.
Bu farw David Tudor Evans, oedd yn 66 oed ac yn dod o Gapel Dewi, yn y digwyddiad.
Fe fu trenau newydd sbon Class 197 Trafnidiaeth Cymru yn weithredol ar wasanaethau pellter hir, fel Rheilffordd y Cambrian lle bu’r gwrthdrawiad ar Hydref 21, ers 2022.
Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, wedi gofyn am gadarnhad gan Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, mai nam ar un o’r trenau newydd oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad.
“Diolch byth bod damweiniau fel hyn, ddigwyddodd ym Mhowys fis diwethaf, wedi dod yn ddigwyddiad prin iawn,” meddai.
“Arweiniodd hyn at farwolaeth teithiwr, ac mae fy nghydymdeimlad yn mynd allan at ei deulu a’i ffrindiau.
“Ond fe allai hyn fod wedi bod yn llawer gwaeth, a dw i’n poeni bod potensial iddo ddod yn fwy eang o ystyried natur y nam.”
Ymchwiliad
Yn dilyn ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad, daeth y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd o hyd i rwystrau mecanyddol i system frecio’r trên.
Wrth holi Ken Skates, dywedodd Peredur Owen Griffiths fod “pibellau oedd i fod i chwistrellu tywod yn ystod llithriad olwyn wedi’u rhwystro”.
“Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y pibellau ar drenau Trafnidiaeth Cymru eraill yn rhydd o rwystrau tebyg a namau tebyg?” gofynnodd.
“Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau a ddigwyddodd methiant y system ar un o drenau newydd Trafnidiaeth Cymru, ac os felly, a fydd y fflyd newydd gyfan yn cael ei harchwilio am ddiffygion tebyg, a sut y byddai hynny’n cael ei ariannu, a pha warantau cytundebol sydd ar waith y gellir eu galw i drwsio unrhyw ddiffygion systematig?
“Ac ymhellach i hynny, pa sgyrsiau ac ymgynghoriadau rydych chi wedi’u cael gydag undebau rheilffyrdd a staff Trafnidiaeth Cymru i siarad am rai o’r gwersi sydd i’w dysgu o’r digwyddiad trasig hwn?”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Ymateb uniongyrchol Ken Skates oedd cadarnhau ei fod yn disgwyl clywed gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail “am yr hyn maen nhw’n ei wneud o ran gwiriadau uwch i sicrhau bod y rhwydwaith a’n trenau sy’n teithio ar draws ein llinellau mor ddiogel ag y gallan nhw fod”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb a diweddariad pellach gan Lywodraeth Cymru.