Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno (nos Iau, Chwefror 1) i drafod dyfodol canolfan beicio mynydd Coed y Brenin.

Y ganolfan yng Nganllwyd ger Dolgellau oedd y gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain pan agorodd ei drysau yn 1996.

Mae’n cynnig gwasanaethau i bobol leol ac ymwelwyr i gefnogi’r profiad o fwynhau rhwydwaith enfawr o lwybrau beicio mynydd sydd wedi’u lleoli mewn coedwig.

‘Ysgwyd y gymuned’

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ystyried cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yng Ngheredigion, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ddiwedd mis Mawrth.

Yn ôl Delyth Lloyd Griffiths, Cynghorydd Ganllwyd sy’n cynrychioli Plaid Cymru, byddai cau canolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru’n gryn ergyd i ymwelwyr a chymunedau.

Dywed y byddai colli swyddi mewn ardaloedd gwledig hefyd yn gryn ergyd.

“Mae angen i bobl ddeall mai ychydig iawn o gyfleoedd cyflogaeth sydd gan ardal wledig, gyda’r rhan fwyaf o’n trigolion yn hunangyflogedig ac yn gweithio’n galed mewn busnesau bach iawn,” meddai wrth golwg360.

“Mae cael adnodd fel Coed y Brenin ar agor gydol y flwyddyn yn cynnig gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol gyda llwybrau beicio mynydd, cerdded a rhedeg yn hollbwysig i’r ardal hon.

“Rydym yn annog pobol leol i fynychu’r cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, Ganllwyd nos Iau, Chwefror 1 am 6:30yh er mwyn lleisio’u barn.”

Cefnogaeth a phryder

Eisoes, mae cefnogaeth wedi bod yn cynyddu ar-lein wrth i’r gymuned feicio ymhell ac agos ddod i glywed am adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae busnesau lleol yn Nolgellau hefyd yn pryderu’n fawr am y drafodaeth am y safle.

Yn ymuno â’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn y cyfarfod cyhoeddus fydd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd; Dafydd Caradog Davies, sylfaenydd traciau beic Coed y Brenin; y beiciwr lleol Rhys Llywelyn; ac Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru.