Does dim gwasanaeth bad achub ym Mhwllheli ar hyn o bryd oherwydd “methiant difrifol” ym mherthynas aelodau o’r criw.

Mae nifer o’r staff wedi ymddiswyddo ar ôl i berthnasau “dorri i lawr yn ddifrifol”.

Fydd gwasanaethau arferol ddim yn rhedeg o’r orsaf am gyfnod tra bod trefniadau’n cael eu hailosod yno.

Yn ôl yr RNLI, “nid ar chwarae bach” gafodd y penderfyniad hwn ei wneud, ond dywed llefarydd fod yn rhaid sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir.

“Mae’r RNLI yn cydnabod fod llawer o’r gwirfoddolwyr ym Mhwllheli wedi ymrwymo i achub bywydau ar y môr, ond nid yw’n bosibl rhedeg gwasanaeth bad achub gweithredol gyda diffyg ymddiriedaeth ac anghytgord,” meddai.

“O ganlyniad, mae’n chwith gan yr RNLI orfod diweddu trefniadau gwirfoddoli gyda’r holl staff gweithredol.”

‘Creu amgylchedd diogel’

Ychwanega’r llefarydd fod gweithio ar y môr yn “amgylchedd heriol”, a bod angen lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng aelodau’r criw wrth achub bywydau.

“Rydym yn ddiolchgar dros ben i’n gwirfoddolwyr am eu gwasanaeth a’u hymrwymiad, ond rydym wedi gorfod delio gyda sefyllfa gymhleth tu hwnt,” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal i’n staff a’n gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n cael eu hachub er mwyn creu amgylchedd diogel lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel a’u parchu.”

Maen nhw wedi gwahodd gwirfoddolwyr sy’n dymuno ailadeiladu’r tîm i drafod y posibilrwydd o ailsefydlu eu perthynas wirfoddol.

“Mae’r RNLI yn cydnabod, tra bod nifer o’r gwirfoddolwyr ym Mhwllheli yn parhau wedi eu hymrwymo i achub bywydau yn y môr, nad yw hi’n bosib redeg gwasanaeth achub bywyd gweithredol gyda drwgdybiaeth a diffyg harmoni parhaus,” meddai.

“Nid yw’r penderfyniad wedi bod yn un hawdd, ond mae’n hanfodol er mwyn symud ymlaen gyda gorsaf bad achub cynhwysol a chynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer i ddod.”

Ar hyn o bryd, bydd badau achub o Borthdinllaen a’r Bermo yn derbyn cefnogaeth gan fadau achub Atlantic 85 Abersoch a Chricieth i gynnal y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu gan Bwllheli yn flaenorol.