Flwyddyn union ers daeargrynfeydd Twrci a Syria, mae pwyllgor argyfyngau DEC Cymru wedi cyhoeddi fideo’n talu teyrnged i’r gweithwyr rheng flaen fu’n rhan o’r ymdrechion achub yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd o leiaf 56,000 o bobol eu lladd, a thros 300,000 o adeiladau eu dymchwel yng ngogledd orllewin Syria a de Twrci yn y trychineb fis Chwefror y llynedd.
Mae’r fideo’n tynnu sylw at rôl gweithwyr rheng flaen a phwysigrwydd cydsefyll rhyngwladol.
Mae’r ffilm fer wedi’i dramateiddio wedi’i lleoli mewn ysbyty i fabanod newydd-anedig yn Syria, ac mae’n dilyn meddyg ifanc o’r enw Layla, yn yr eiliadau, dyddiau a misoedd wedi’r daeargryn, wrth iddi helpu pobol wrth ymdopi â’i cholled bersonol ei hun.
Nod y ffilm, gafodd ei chreu ar y cyd â Don’t Panic, yw dod â phrofiad un person yn fyw yng nghanol y dinistr.
Mae’r ddeialog yn yr iaith Arabeg, sef iaith swyddogol Syria, a chafodd ei ffilmio yng ngwledydd Prydain gydag actorion sy’n medru’r iaith, ac fe gawson nhw gefnogaeth gan hyfforddwyr tafodiaith a chynghorydd diwylliannol o Syria.
Ymgynghorydd arall ar y prosiect oedd Fuad Sayed Issa, sylfaenydd yr elusen Violet, sy’n rhedeg yr ysbyty y cafodd yr ysbyty yn y ffilm ei seilio arno.
Cafodd cymeriad Layla ei ysbrydoli gan aelod o staff yr ysbyty, sy’n darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 58 gwersyll i ryw 85,000 o bobol sydd wedi’u dadleoli, gan gynnwys yr uned famolaeth.
Yn dilyn y daeargryn, roedd y pwysau ar wasanaethau’r ysbyty yn golygu ei fod e mewn perygl o gau, ond yn ffodus fe dderbyniodd gymorth gan elusen o’r enw Violet, sydd yn ei thro yn un o bartneriaid lleol elusen DEC Action Aid.
Mae Violet yn un o 24 elusen leol yn Syria sydd wedi derbyn cymorth drwy’r apêl, ac mae’r cymorth wedi sefydlogi’r ysbyty. Hebddo, byddai nifer uchel o fenywod a babanod mewn perygl.
Gwaith DEC Cymru
Daw DEC â phymtheg o elusennau dyngarol mwyaf y Deyrnas Unedig ynghyd ar adegau o drychineb graddfa fawr dramor.
Roedd ymateb sylweddol i’r apêl, sydd bellach yn un o’r apeliadau mwyaf yn hanes yr elusen, gan godi £4.7m yng Nghymru, gan gynnwys cyfraniad o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.
Ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r apêl bellach wedi codi dros £150m, gan gynnwys £5m mewn arian cyfatebol gan Lywodraeth San Steffan.
“Roedd hon yn apêl fawr i ni ac rydym yn cymryd y gwaith o adrodd yn ôl i’r cyhoedd ar effaith eu cyfraniadau’n ddifrifol,” meddai Siân Stephen, Rheolwr Materion Allanol DEC Cymru.
“Ond gall fod yn heriol gadw ffocws ar y profiad dynol wrth ddelio gyda sefyllfaoedd sy’n effeithio miliynau.
“Yng nghymeriad Layla, sydd wedi’i seilio ar feddyg go iawn, fe welsom stori a allai helpu pobol i uniaethu â phrofiad effeithiodd gynifer o bobol yn y rhanbarth.
“Mae cymeriad Layla wedi’i seilio ar brofiad menyw o’r enw Haneen, Pennaeth Nyrsio yn yr ysbyty dan sylw.
“Mae’r ffilm yn ein helpu i gofio mai pobol leol ydy’r ymatebwyr cyntaf i’r trychinebau bron bob tro, er bod y bobol hyn hefyd yn aml yn oroeswyr ac yn ddioddefwyr eu hunain hefyd.
“Fe effeithiwyd Haneen yn bersonol yn ogystal ag yn broffesiynol.
“Rydym wir yn ddiolchgar fod haelioni ac empathi pobol Cymru wedi ein galluogi ni i gydsefyll gyda phobol fel hi.”
Y gwaith yn mynd rhagddo o hyd
Mae’r adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ffilm, yn dangos sut roedd elusennau DEC a’u partneriaid lleol yn darparu cymorth brys i fwy na miliwn o bobol yn ystod chwe mis cynta’r ymateb i’r apêl ddyngarol.
Ar hyn o bryd, tra bod y gwaith ar lawr gwlad yn dal i fynd rhagddo, mae’r rhoddion yn helpu cannoedd o filoedd o bobol yn y ddwy wlad gyda chymorth hanfodol, gan eu helpu ar y ffordd hir i adferiad.
Yng nghyfnod presennol yr ymateb dyngarol, fydd yn parhau tan Ionawr 2025, bydd elusennau DEC a’u partneriaid lleol yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu taliadau arian parod a thalebau yn ogystal â mynediad at ddŵr glân a gofal iechyd.
Fodd bynnag, bydd pwyslais cynyddol hefyd ar ailadeiladu bywoliaethau pobol er mwyn eu galluogi nhw i’w cynnal eu hunain tua’r dyfodol.