Mae Penny Mordaunt, arweinydd Tŷ’r Cyffredin, yn honni y byddai dros 2,000 o Aelodau Seneddol yn San Steffan pe baen nhw’n dilyn cynllun tebyg i Fil Diwygio’r Senedd.
Gwnaeth hi’r sylwadau wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Iau, Chwefror 1).
Mae’r cynlluniau i ddiwygio’r Senedd yn golygu y bydd nifer yr Aelodau yn cynyddu o 60 i 96, tra bydd y ffordd maen nhw’n cael eu hethol hefyd yn newid.
Ar hyn o bryd, mae 650 Aelod Seneddol yn San Steffan, ond dywed Penny Mordaunt y byddai’r ffigwr yn codi dros 2,000 pe bai San Steffan yn defnyddio’r un gymhareb etholwr-i-wleidydd.
‘Glasbrint Llafur’
Daeth sylwadau Penny Mordaunt wedi i Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, fynegi ei phryderon.
“Mae Ynys Môn yn cael ei chynrychioli gan bum Aelod o’r Senedd; bydd yn cynyddu i chwech yn fuan, ac yn uno ag etholaeth arall, allai olygu nad oes yr un Aelod Seneddol yn byw ar Ynys Môn.
“I’r gwrthwyneb, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod cymeriad unigryw Ynys Môn drwy roi statws gwarchodedig arbennig i’r ynys.
“A yw Arweinydd y Tŷ yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, fod yn rhoi blaenoriaeth i gynyddu nifer yr apwyntiadau gyda meddygon teulu a deintyddion, ac nid cynyddu nifer Aelodau’r Senedd gan 60% syfrdanol o 60 i 96?”
Ymatebodd Penny Mourdant drwy ddweud ei bod yn “sioc” clywed am y cynllun i gynyddu nifer Aelodau’r Senedd “yn aruthrol.”
“Yn anaml mae mwy o wleidyddion yn ateb i sefyllfaoedd yn ymwneud â gofal iechyd gwell a phethau felly; fel arfer, mwy o feddygon teulu neu fwy o athrawon sydd eu hangen.”
Aeth yn ei baen i feirniadu’r cynlluniau, gan honni mai dyna “lasbrint Llafur ar gyfer llywodraethu Prydain”.
Cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd cynyddu nifer Aelodau’r Senedd yn golygu Cymru “fwy modern ac effeithiol”.
Dywed Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, fod yna gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i gryfhau democratiaeth.
“Rydyn ni’n creu Senedd sy’n fwy effeithiol, ac â mwy o allu i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif,” meddai.
“Cymru sydd â’r gynrychiolaeth isaf o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig – y Senedd sydd â’r nifer lleiaf o Aelodau o unrhyw un o’r seneddau datganoledig, a’r gostyngiad diweddar mewn seddau yn Senedd y Deyrnas Unedig yw’r newid mwyaf sylweddol ers canrif.”
Yn yr un modd, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud yn y gorffennol y bydd Bil Diwygio’r Senedd “yn rhoi sylfaen fwy cadarn i ddemocratiaeth Cymru” drwy greu Senedd sy’n agosach at faint deddfwrfeydd yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r modd mae cynrychiolaeth Cymru ar lefel y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn cael ei gwanhau,” meddai.