Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael eu rhwystro rhag cyflawni eu swyddogaeth.

Fe wnaeth adroddiad gan Archwilio Cymru ganfod fod oedi parhaus wrth fabwysiadu dogfennau strategol allweddol wedi creu risgiau sylweddol i’r Cyngor, ac o ganlyniad mae’r berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi’u torri.

Prif nod yr adroddiad oedd darganfod a oes gan y Cyngor drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio.

Cafodd adolygiad o drefniadau’r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei gynnal, ac i ba raddau mae’n cefnogi cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor.

Edrychodd eu gwaith ar sut mae’r Cyngor yn adolygu ac yn monitro eu trefniadau llywodraethu, gan gynnwys sut maen nhw’n sicrhau gwerthoedd ac ymddygiadau priodol, gyda ffocws penodol ar y Gwasanaethau Cynllunio.

Casgliadau

Ar adeg y gwaith, doedd yr aelodau ddim wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol, ac fe greodd hyn risgiau sylweddol i’r Cyngor, yn ôl yr adroddiad.

Er bod gan y Gwasanaeth Cynllunio drefniadau llywodraethu priodol ar waith a’u bod nhw’n darparu hyfforddiant cynhwysfawr i aelodau, cafodd perthynas aelodau â swyddogion ei thorri, ac mae cyngor swyddogion proffesiynol yn aml yn cael ei danseilio.

“Ar sail ein canfyddiadau, rwy’ wedi nodi argymhellion sydd â’r bwriad o wella’r berthynas rhwng swyddogion ac aelodau a’u dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau priodol,” meddai Adrian Crompton.

“Gyda’n gilydd, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn helpu’r gwasanaeth cynllunio i gyflawni ei rôl alluogi hanfodol ar draws y Cyngor.”

Ers i’r gwaith archwilio gael ei gwblhau, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu eu Cynllun Cyngor 2023-28 yn y Cyngor, a’u Cynllun Datblygu Lleol yn y Cyngor Eithriadol.