Bydd pont dros afon Dyfi ger Machynlleth yn agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf heddiw (dydd Gwener, Chwefror 2).

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r bont agor yn ystod y gwanwyn y llynedd, ond ddigwyddodd hynny ddim oherwydd problemau cyflenwi.

Hwn fydd un o’r prosiectau cyntaf i gael ei gwblhau ers adolygiad annibynnol o ffyrdd Cymru gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd.

Yn yr adolygiad ffyrdd, bu i’r llywodraeth ymrwymo i fuddsoddi mewn prosiectau adeiladu ffyrdd fyddai’n lleihau allyriadau carbon yn unig.

Fe wnaethon nhw hefyd amlinellu’r nod o symud tuag at fwy o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio ac i wella diogelwch ffyrdd.

Mae’r bont yn werth £46m, a bydd yn cael ei defnyddio gan gerbydau a cherddwyr.

Mae’r bont yn ymestyn dros 1.2km o ogledd Machynlleth i lawr at yr A487 i’r de o Fachynlleth.

Bydd yn disodli’r hen bont oedd yn dioddef yn aml oherwydd llifogydd.

Ymateb i heriau hinsawdd

Dywed Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, fod y bont newydd yn “darparu cysylltedd ar gyfer gofal iechyd, addysg, cyflogaeth a hamdden”.

“Roeddwn yn arbennig o falch o fod ymhlith y grŵp cyntaf o bobol ar feiciau i fanteisio ar y llwybr beicio a cherdded newydd sydd wedi’i integreiddio’n llawn i’r bont newydd, fel rhan o rwydwaith teithio llesol ehangach sy’n cael ei ddatblygu ym Machynlleth a’r cyffiniau,” meddai.

‌“Mae hyn yn dangos sut y gallwn ei gwneud hi’n haws cerdded a beicio yng nghefn gwlad Cymru, yn ogystal ag yn ein trefi a’n dinasoedd mwy trefol.”

Ychwanega David Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni adeiladu’r bont, ei fod yn falch iawn ei bod hi ar agor i’r cyhoedd erbyn hyn.

“Mae’r cynllun wedi bod yn her dechnegol wirioneddol ond mae’n dyst i’n hymrwymiad i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, gan wella mynediad cymunedol at wasanaethau gofal iechyd ac addysg hanfodol, i gyd wrth ganolbwyntio ar atebion teithio llesol,” meddai.

“Trwy ymdrechion ar y cyd, rydym nid yn unig wedi lleihau ein hôl troed carbon o adeiladu ond hefyd wedi buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol trwy feithrin talentau trwy brentisiaethau.”