Mae Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, wedi rhoi sicrwydd fod y Bil Amnest yn gwarchod holl gefnogwyr annibyniaeth i Gatalwnia.
Daeth yr addewid wrth iddo fe ddweud nad yw annibyniaeth i Gatalwnia’n gyfystyr â brawychiaeth – “dydyn nhw ddim yn frawychwyr”, meddai am gefnogwyr annibyniaeth.
Ddechrau’r wythnos, fe wnaeth plaid Junts per Catalunya wrthod y Bil yng Nghyngres Sbaen, gan eu bod nhw’n poeni na fyddai’r fersiwn bresennol yn gwarchod Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, ac arweinwyr eraill yr ymgyrch dros annibyniaeth gafodd eu herlyn.
Mae Junts am weld y ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio i gynnwys y sawl sydd wedi’u cyhuddo o fod â rhan ym mhrotestiadau’r Tsunami Democràtic a Phwyllgorau Amddiffyn y Weriniaeth (CDR), fel eu bod nhw hefyd yn cael eu gwarchod.
Er mwyn gwneud hynny, meddai Junts, mae’n rhaid dileu unrhyw gyfeiriad at frawychiaeth fel eithriad i weithredu’r gyfraith.
Ond mae’r Sosialwyr yn poeni y gallai hynny godi ffrae yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen, gan arwain at gyhuddiadau o fod yn anghyfansoddiadol.
Bydd yn rhaid trafod y ddeddfwriaeth o’r newydd bellach, a hynny yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfiawnder.
Gobaith y Sosialwyr yw y bydd modd ei drafod o’r newydd ymhen dwy neu dair wythnos.