Dywed Vaughan Gething y byddai’n ceisio mwy o bwerau i Gymru pe bai’n ennill ras arweinyddol Llafur Cymru.
Dywed mai Ystad y Goron, o blith yr holl bwerau posib sydd heb eu datganoli ar hyn o bryd, fyddai ei flaenoriaeth – rhywbeth y bu Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru’n galw amdano ers tro.
“Os caf fy ethol yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog, cyfrifoldeb am Ystâd y Goron yw’r set bwysicaf o bwerau newydd y byddai ein Llywodraeth Lafur Cymru yn eu ceisio ar gyfer y Senedd,” meddai.
“Dyma’r maes polisi, pe bai’n cael ei ddatganoli, fyddai’n dod â’r budd mwyaf i bocedi pobol Cymru – ac i’r blaned.”
Cwmni annibynnol yw Ystâd y Goron, ac mae cyllid gwerth £16bn yn ei bortffolio eiddo.
Mae’r arian yn mynd yn uniongyrchol i’r Trysorlys yn Llundain.
Yn 2016, cafodd taliadau’r ystâd eu datganoli yn yr Alban.
‘Gweithio i Gymru gyfan’
Dywed Vaughan Gething y byddai hefyd yn gwthio i ddatganoli pwerau eraill i Gymru, gan gynnwys gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a phrawf, a chyfiawnder a phlismona, fel sy’n cael ei argymell yn adroddiad Gordon Brown, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
“Byddem hefyd yn pwyso am ddatganoli mwy o bwerau benthyca i Gymru fel y gallwn fuddsoddi mewn seilwaith a chael mwy am bob punt o arian cyhoeddus a wariwn,” meddai.
“Fel Prif Weinidog, byddwn hefyd yn cefnogi creu ysgrifenyddiaeth annibynnol i sicrhau na all Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i gam-drin cenhedloedd datganoledig.”
Ychwanega y bu’n weithgar yn y frwydr dros ddatganoli pwerau yn 1997 pan oedd yn arwain Students Say Yes.
Llywodraeth sy’n “gweithio i Gymru gyfan”
Er ei fod e eisiau gweld mwy o ddatganoli, dywed Vaughan Gething nad “dim ond mwy o bwerau i Gymru” yw ei weledigaeth, gan ychwanegu ei fod e eisiau gweld cynrychiolaeth fwy teg o fewn y genedl hefyd.
“Ni allwn ac ni ddylem fod yn fodlon â disodli canoli yn Llundain gyda chanoli ym Mae Caerdydd,” meddai.
“Nid dyna ffordd Llafur Cymru, ac nid fy ffordd i yw hi.
“Gallwn fynd ymhellach eto a rhoi pŵer yn nwylo pobol ledled Cymru.”
Dywed ei fod e eisiau cryfhau rôl Gweinidog Gogledd Cymru, er mwyn sicrhau bod y llywodraeth “yn gweithio i Gymru gyfan”.
“Byddem yn datblygu pecyn o bwerau i’w datganoli i lywodraeth leol ledled Cymru,” meddai.
“Mae’n rhaid i ddatganoli pŵer ddod â chyllid cyfatebol, felly byddem yn gweithio gyda’r rhanbarthau i ysgogi buddsoddiad mewn swyddi a chyfleoedd da sy’n talu’n dda ledled y wlad, a byddem yn creu rôl gryfach i gynghorwyr.”