Mae cwest i farwolaeth dyn 29 oed o Gasnewydd wedi dyfarnu ei fod e wedi marw ar ôl cymryd cocên.

Bu farw Mouayed Bashir ar ôl dod i gysylltiad â Heddlu Gwent fis Chwefror 2021.

Ar Chwefror 17 y flwyddyn honno, cafodd e bwl gwael o salwch meddwl ar ôl cymryd cocên, a ffoniodd ei rieni am feddyg gan eu bod nhw’n poeni am ei les.

Cawson nhw gyngor i ffonio’r gwasanaethau brys, ac fe atebodd yr heddlu yr alwad yn hytrach nag ambiwlans.

Daeth plismon am 9 o’r gloch y bore hwnnw, a rhagor o blismyn yn ddiweddarach, ac fe wnaethon nhw alw am ambiwlans ar ôl i Mouayed Bashir gloi ei hun yn ei ystafell.

Bu’n rhaid i’r heddlu orfodi eu ffordd i mewn, ac fe wnaethon nhw ei dawelu gan ddweud ei fod e’n mynd yn “wallgof”.

Roedd e’n gorwedd ar lawr yn ei ddillad isaf pan aeth yr heddlu i mewn, ac roedd yn cicio.

Cafodd ei roi mewn cyffion y tu ôl i’w gefn, a chafodd ei goesau eu clymu wrth iddo fe lefain a gweiddi.

Cafodd yr heddlu wybod wrth fynd i’r eiddo y gallai fod â chyffuriau neu arfau yn ei feddiant, a dywedodd yr heddlu ei fod e’n “ymosodol iawn”, er bod ei deulu’n mynnu bod angen cymorth arno fe.

Tua 35 munud ar ôl i’r heddlu ei dawelu, doedd e ddim bellach yn ymateb, ac fe ddywedodd y cwest i’w farwolaeth fod y sefyllfa wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Cyrhaeddodd yr ambiwlans dros awr ar ôl i’r heddlu gyrraedd yr eiddo, ac fe gawson nhw anhawster wrth geisio’i symud gan ei fod e’n dal mewn cyffion.

Dioddefodd e ataliad ar y galon yn yr ambiwlans, ac roedd e wedi marw erbyn iddo fe gyrraedd yr ysbyty.

Rheithfarn

Daeth y rheithgor yn y cwest i’r casgliad ei fod e wedi marw o ganlyniad i gymryd cocên, a bod yr heddlu wedi gweithredu er mwyn ei ddiogelwch.

Dywedodd y rheithgor nad oedd gan yr heddlu ddigon o ymwybyddiaeth o’i gyflwr meddyliol i’w drin yn gywir.

Mae’r teulu wedi diolch iddyn nhw am adnabod “rhai methiannau allweddol”, ac i’r gymuned am eu “cariad” atyn nhw.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw eisiau “diweddglo, cyfiawnder ac atebolrwydd”, ond eu bod nhw’n teimlo na fydden nhw’n cael cyfiawnder trwy’r cwest, a’u bod nhw hefyd am i gamau gael eu cymryd i drin cyflwr Mouayed Bashir yn well mewn pobol eraill.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw am weld hyfforddiant i’r heddlu’n cael ei foderneiddio, ei weddnewid a’i ddiweddaru, ac maen nhw wedi beirniadu’r heddlu am fethu â chydnabod fod angen gwneud hynny.

Mae’r teulu hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno polisi fydd yn eu galluogi nhw i adolygu dulliau aml-asianetaeth fel bod modd cydweithio er mwyn osgoi rhagor o farwolaethau.

Mae’r elusen INQUEST yn dweud bod yr heddlu’n “meddwl mwy am dorcyfraith na gofal”, a bod yna “batrwm cenedlaethol o ddefnydd anghymesur o rym yn erbyn dynion Du mewn argyfyngau iechyd meddwl”.

Maen nhw’n dweud nad yw “diwylliant a dull presennol yr heddlu yn addas at y pwrpas”.

Teyrnged y teulu

Mae teulu Mouayed Bashir yn hanu o Swdan, ond cafodd ei fagu yng Nghasnewydd.

Caiff ei ddisgrifio gan ei deulu fel person caredig a hael iawn, oedd wedi ymrwymo i’w ffydd a’i deulu.

Roedd yn gofalu am ei fam.

Dywed y teulu ei fod e’n hoff o gael barbeciw yn yr haf, ac yn aml yn cynnal digwyddiadau i’w ffrindiau.

Roedd e’n “boblogaidd”, medden nhw, ac yn caru cerddoriaeth draddodiadol o Swdan i hip-hop.