Mae’r Uchel Lys wedi clywed honiadau nad oes modd i gwmni awyr Aer Lingus na’r banc cenedlaethol Bank of Ireland ddefnyddio orgraff Wyddeleg yn eu systemau cyfrifiadurol, yn ôl yr Irish Independent.
Mae’r achos wedi mynd gerbron yr Uchel Lys, sydd wedi beirniadu’r Comisiwn Diogelu Data am wrthod cwynion y mudiad Conradh na Gaeilge.
Mae’r achos yn ymwneud â diffyg gallu systemau cyfrifiadurol i brosesu enwau na chyfeiriadau sy’n cynnwys yr acen Wyddeleg síneadh fada.
Daeth yr achos i’r amlwg ar ôl i Julian De Spáinn gwyno nad oedd modd i’r naill gwmni na’r llall brosesu ei fanylion personol, a hynny ar ôl iddo fe wneud cais GDPR.
Cafodd y dyfarniad ei gyflwyno drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg.
Mae’r Comisiwn Diogelu Data bellach yn derbyn nad oedden nhw wedi gwneud y penderfyniad cywir yn y lle cyntaf, ar ôl i Julian De Spáinn ddadlau y dylai fod ganddo’r hawl i gywiro’i wybodaeth bersonol ar systemau cyfrifiadurol.
Yn sgil y dyfarniad, bydd yn rhaid i’r Comisiwn edrych ar yr achos eto a dod i benderfyniad o’r newydd, ac maen nhw wedi cael eu beirniadu am beidio â chasglu tystiolaeth ddigonol cyn gwneud y penderfyniad gwreiddiol.
Dywed Bank of Ireland eu bod nhw’n cefnogi siaradwyr Gwyddeleg, a dydy Aer Lingus ddim wedi gwneud sylw.