Mae un o gyn-weinidogion Junts per Catalunya wedi gadael y blaid, ar ôl iddyn nhw bleidleisio yn erbyn y Bil Amnest.

Doedd Miquel Sàmper ddim yn cytuno â phenderfyniad y blaid i wrthwynebu’r ddeddfwriaeth yn y Gyngres, yn ôl adroddiadau.

Yn dilyn gwrthwynebiad y blaid, bydd yn rhaid trafod a chyflwyno’r ddeddfwriaeth o’r newydd.

Cyflwynodd Junts, Esquerra Republicana a’r Sosialwyr nifer o welliannau i’r Bil, a hynny er mwyn sicrhau na fyddai barnwyr yn gallu dyfarnu ei fod yn anghyfansoddiadol.

Ond doedd Junts ddim yn hapus â’r newidiadau, gan eu bod nhw am ddileu unrhyw gyfeiriad at frawychiaeth fel eithriad, gan y gallai olygu na fyddai’r cyn-arweinydd Carles Puigdemont yn manteisio ar y ddeddfwriaeth.

Roedden nhw hefyd eisiau gwarchodaeth i’r sawl sydd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â phrotestiadau Tsunami Democràtic a Phwyllgorau Amddiffyn y Weriniaeth (CDR).

Fe wnaeth y Sosialwyr wrthod cyflwyno rhagor o welliannau, gan gredu y byddai dileu brawychiaeth yn achosi i’r amnest gael ei chlymu’n rhan o drafodaethau yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen.

Ar ôl i Junts bleidleisio yn erbyn y Bil, bydd yn mynd at y Pwyllgor Cyfiawnder i gael ei drafod o’r newydd, ac fe allai fynd gerbron Cyngres Sbaen eto ymhen ychydig wythnosau.