Bydd Jeremy Miles yn amlinellu ei addewidion maniffesto heddiw (dydd Iau, Chwefror 1), wrth iddo fe geisio ennill ras arweinyddol Llafur Cymru.

Ymysg ei addewidion disgwyliedig mae cynllun rhentu i brynu er mwyn helpu’r rhai sy’n rhentu i brynu tŷ, a chymhelliant ariannol i annog graddedigion i gychwyn busnesau yng Nghymru.

Bydd hefyd yn ymrwymo i adolygu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer busnesau, wedi i Lywodraeth Cymru dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75% i 40% ar gyfer tafarnau, siopau a bwytai.

Mae ymrwymiadau i gryfhau’r sector iechyd hefyd, gan gynnwys cyflwyno ymgynghoriad menopos ar gyfer menywod yn eu 40au, a chwtogi amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ac yntau’n Weinidog Addysg, mae e hefyd yn addo mwy o wariant ar addysg a chanolbwyntio’n benodol ar ddileu tlodi plant.

Ymysg ei ymrwymiadau amgylcheddol mae creu mwy o swyddi gwyrdd a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Ond yn ôl yr ymgeisydd, twf economaidd cynaliadwy yw ei brif flaenoriaeth.

‘Cenhadaeth glir’

Mae Jeremy Miles wedi disgrifio’r maniffesto fel un fydd yn “trawsnewid dyfodol Cymru​”.

“Mae’r maniffesto rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn gosod cenhadaeth glir ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai.

“Bydd llywodraeth yr wyf yn ei harwain yn canolbwyntio ar flaenoriaethau dydd i ddydd pobol ledled Cymru, a bydd y blaid yr wyf yn ei harwain wedi’i gwreiddio yn ein cymunedau, gan gyflwyno syniadau newydd a llawn dychymyg sy’n adlewyrchu profiadau dydd i ddydd pobol ar draws ein cymunedau a’n cenedl.

“Nid yw’r gystadleuaeth hon yn ymwneud â mi – nac yn wir unrhyw unigolyn. Mae’n ymwneud â’r hyn y mae angen i Gymru ei gyflawni dros y degawd nesaf i newid ein trywydd a ffynnu mewn byd newydd o newid technolegol ac aflonyddwch.

“Tra bod y sefyllfa gyllidebol bresennol yn gosod cyfyngiadau gwirioneddol ar fentrau gwariant newydd yn y tymor byr, ni fydd hyn yn cyfyngu ar ein huchelgeisiau nac yn amharu ar yr angen am ddulliau radical a llawn dychymyg.

“Felly o’r diwrnod cyntaf, byddaf yn dod ag ymdeimlad o frys a phwrpas i fwrw ymlaen â’r cynigion yn y maniffesto hwn a fydd yn helpu i wneud Cymru’n wlad fwy ffyniannus a thosturiol.

“Dyna fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru – gadewch i ni fwrw ymlaen â hi ar fyrder.”

Maniffesto Vaughan Gething

Yn y cyfamser, mae Vaughan Gething eisoes wedi addo ymestyn gofal plant rhad ac am ddim i deuluoedd.

Mae e hefyd yn addo lleihau tagfeydd ar yr M4, mwy o brentisiaethau, a mynd i’r afael â thomenni glo anniogel.

Dywed y bydd yn cryfhau trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain, gan weithredu ar sail argymhelliad i fuddsoddi £800m.

Bydd hefyd yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol, meddai, heb osod targed, ac yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i fynd i’r afael â materion megis gollwng carthffosiaeth.