Mae aelod seneddol yng Nghymru’n dweud na ddylai’r un swyddog etholedig orfod goddef bygythiadau i’w bywyd nac ymosodiadau llosgi bwriadol.
Daw sylwadau Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, ar ôl i aelod seneddol yn Llundain gyhoeddi ei fod e’n rhoi’r gorau i’w swydd.
Fe fu Mike Freer yn cynrychioli etholaeth Finchley a Golders Green ers 2010, ond mae’n dweud iddo osgoi cael ei lofruddio “o drwch blewyn” ac y bydd e’n camu o’r neilltu yn yr etholiad cyffredinol nesaf, sydd i’w gynnal eleni.
Cafodd ei dargedu gan Ali Harbi Ali, y dyn oedd wedi trywanu’r aelod seneddol Syr David Amess i farwolaeth yn 2021.
Dywed Mike Freer mai digon yw digon yn dilyn ymosodiad llosgi bwriadol ar swyddfa ei etholaeth ym mis Rhagfyr, ac y bu e a’i staff yn gwisgo dillad gwrth-drywanu’n ddiweddar wrth fynd o gwmpas eu dyletswyddau.
‘Ymosodiad ar ddemocratiaeth ei hun’
Wrth ymateb, dywed Chris Bryant fod gorfodi aelod seneddol i gamu mo’r neilltu’n “ymosodiad ar ddemocratiaeth ei hun”.
“Fy meddyliau cynhesaf gyda Mike Freer,” meddai.
“Ddylai’r un swyddog etholedig orfod goddef bygythiadau i’w bywyd ac ymosodiadau llosgi bwriadol.
“Mae hynny’n ymosodiad ar ddemocratiaeth ei hun.
“Dw i’n dymuno’n dda iddo fe.
“Dylen ni i gyd feddwl pa mor wenwynig yw ffynnon gwleidyddiaeth heddiw.
“A gwneud addewid i’w newid.”
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ategu’r sylwadau.
“Mae hyn yn drist iawn i’w weld,” meddai.
“Ddylai neb mewn bywyd cyhoeddus gael eu rhoi yn y sefyllfa hon.”