Mae pôl piniwn newydd yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen yn etholaethau Ynys Môn a Chaerfyrddin ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn San Steffan.
Cafodd dros 1,000 o bobol eu holi gan Survation yn y ddwy etholaeth.
Llinos Medi sy’n cynrychioli’r Blaid ym Môn, tra bydd Ann Davies yn brwydro sedd newydd Caerfyrddin.
Mae’r pôl yn rhoi 39% o’r bleidlais i Llinos Medi, 27% i Lafur a 26% i’r Ceidwadwyr, gydag Ann Davies yn derbyn 30%, a Llafur a’r Ceidwadwyr 24% yr un.
Mae Jonathan Edwards, yr ymgeisydd annibynnol, ar 10%, a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK 4% yr un.
“Sefyllfa gref” yng Nghaerfyrddin
“Mae’r pôl hwn yn dangos ein bod mewn sefyllfa gref yn etholaeth newydd Caerfyrddin ar ddechrau blwyddyn yr etholiad,” meddai Ann Davies.
“Mae’r newidiadau ffin yn ail-greu sedd debyg i’r un a gynrychiolir gan Gwynfor Evans slawer dydd.
“Fy nod fydd gweithio’n galed i ennill ymddiriedaeth pobl Sir Gaerfyrddin a bod yn bencampwr lleol effeithiol dros ein cymunedau.”
‘Tegwch ac uchelgais’
“Wrth siarad â phobl ar draws yr ynys yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’n amlwg eu bod yn gweld y Torïaid yn San Steffan yn anghymwys i lywodraethu ac nid yw Llafur yn dwyn perswad chwaith y bydden nhw’n cynnig unrhyw newid go iawn,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.
“Mae Plaid Cymru yn brwydro yn yr etholiad hwn ar lwyfan o degwch ac uchelgais i Gymru, ac rwy’n falch o weld y derbyniad cynnes ar garreg y drws yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y pôl hwn.”
‘Pencampwyr lleol’
“Mae Llinos Medi ac Ann Davies yn bencampwyr lleol gyda hanes cryf o gyflawni dros eu cymunedau unigol, Ynys Môn a Chaerfyrddin,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae pobol yn gwybod nad yw’r etholiad cyffredinol nesaf yn ddewis rhwng dwy blaid allan o gysylltiad yn Llundain. Mae ganddyn nhw ddewis arall ym Mhlaid Cymru.
“Mae pleidlais i Blaid Cymru yn golygu pleidlais i roi Cymru yn gyntaf yn San Steffan, gan fynnu’r tegwch a’r uchelgais y mae ein gwlad ei angen ac yn ei haeddu.”