Bydd un o safleoedd diwydiannol cynharaf gwledydd Prydain yn ailagor heddiw (dydd Iau, Chwefror 1), ar ôl bod ar gau ers 2020.

Mae ailagor Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yng Nghwm Nedd yn nodi partneriaeth newydd gyda St Giles Cymru, fydd yn defnyddio’r lleoliad fel Hwb Llesiant, Treftadaeth a Hyfforddiant Cymunedol Gwyrdd.

Ar ôl i’r safle gau yn ystod y cyfnodau clo, bu sawl mis o waith cadwraeth hanfodol i sefydlogi’r clogwyni a chynnal y waliau wrth yr afon yno hefyd.

Dros y canrifoedd, daeth Aberdulais yn ganolfan arloesi diwydiannol oedd yn cael ei rhedeg gan ddŵr rhaeadr Aberdulais, gan greu copr yn gyntaf, yna tecstilau, ac wedyn tun.

“Rydym wrth ein bodd o gael ailagor Aberdulais mewn partneriaeth â St Giles Cymru, er mwyn i bawb allu mwynhau’r safle,” meddai Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

“Mae’r gwaith adfer yn sicrhau y bydd y trysor hwn yn hanes diwydiannol Cymru yn parhau i fod yma am genedlaethau i ddod.

“Edrychwn ymlaen at groesawu pobol o bell ac agos i fwynhau Aberdulais, ei fannau gwyrdd a’i orffennol hanesyddol.”

‘Grymuso’r gymuned’

Dros y flwyddyn nesaf, bydd St Giles, sy’n elusen cyfiawnder cymdeithasol, yn creu cynllun i gyrraedd mwy o gymunedau a phobol ledled Cymru drwy eu gwaith yn Aberdulais.

Nod yr elusen ydy rhoi hyfforddiant a chymorth i bobol ifanc ac oedolion sy’n dioddef oherwydd tlodi, camdriniaeth ac iechyd meddwl, neu sydd wedi troseddu.

“Rydym wrth ein bodd o gael gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – gobeithio y bydd hyn yn fan cychwyn ar gyfer perthynas faith a pharhaol,” meddai Tracey Burley, Prif Swyddog Gweithredol St Giles.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd ar y safle hanesyddol a hardd hwn i gyfuno grym mannau gwyrdd, addysg, hyfforddiant ymarferol a chymorth fel bod modd grymuso’r aelodau hynny o’r gymuned leol sydd wedi wynebu’r adfyd mwyaf i greu dyfodol cadarnhaol.”