Byddai ychwanegu gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad at restr o ddigwyddiadau teledu sy’n cael eu darlledu am ddim yn bygwth gallu Undeb Rygbi Cymru i oroesi, yn ôl rhybudd y Prif Weithredwr newydd.

Dywed Abi Tierney, gafodd ei phenodi ym mis Awst, wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd fod buddsoddiad parhaus yn rygbi Cymru yn dibynnu’n fawr ar arian o hawliau’r cyfryngau.

“Mae gwir angen i ni gael cydbwysedd rhwng yr asesiad ar ba gyrhaeddiad sydd angen i ni ei roi gyda chydbwysedd ar fuddsoddiad yn y gêm,” meddai.

“Heb y buddsoddiad hwn, fe fydden ni wir yn ei chael hi’n anodd parhau i oroesi fel undeb.”

Dywed Abi Tierney fod Undeb Rygbi Cymru yn codi tua £90m y flwyddyn mewn cyfanswm refeniw, gan gynnwys cyfartaledd o £20m o hawliau cyfryngau, gyda thua £62m yn cael ei wario ar y gêm gymunedol a rhanbarthol.

“Byddai hyd yn oed colli 20-30% o hynny yn golygu effaith enfawr ar draws y gêm,” meddai.

Daw’r rhybudd ar ôl i’r Senedd gytuno’n unfrydol i annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ychwanegu’r Chwe Gwlad at ddigwyddiadau rhestredig categori A Ofcom.

‘Hyfyw a gweladwy’

Wrth gael ei holi am yr effaith bosibl ar lefelau cyfranogiad pe bai rygbi yn mynd y tu ôl i wal dalu, fe wnaeth Nigel Walker gydnabod fod perthynas rhyngddyn nhw, ond fe rybuddiodd am ganlyniadau anfwriadol.

Dywed Cyfarwyddwr Gweithredol Undeb Rygbi Cymru fod yn rhaid i’r gamp fod yn hyfyw yn ogystal ag yn weladwy.

“Yr hyn nad ydyn ni’n ei ddweud yw ein bod ni’n mynd i ddewis, fel rhan o dîm negodi’r Chwe Gwlad, darlledwr talu-wrth-wylio,” meddai.

“Yr hyn rydyn ni’n ei ddweud yw os byddwch chi’n tynnu hynny oddi ar y bwrdd, rydych chi’n tynnu’r tensiwn a’r gystadleuaeth allan o’r farchnad – a byddai hynny’n ei gwneud hi’n anodd iawn.

“Yna byddai’r darlledwyr rhad ac am ddim yn gosod y lefel y bydden ni’n cael ein gorfodi i’w chymryd.”

‘Storm berffaith’

Disgrifia Nigel Walker, oedd gynt yn gyfrifol am drafod hawliau chwaraeon yn BBC Cymru, yr hinsawdd bresennol fel storm berffaith.

Dywed y cyn-athletwr ac asgellwr Cymru fod gwerthu hawliau chwaraeon wedi bod yn fwyfwy anodd yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd y penwynt economaidd.

“Mae yna duedd ar i lawr ac mae’r cynigion sy’n cael eu gwneud dros y 12 mis diwethaf yn benodol yn dangos dirywiad o 30%,” meddai wrth Aelodau’r Senedd.

Pwysleisiodd Nigel Walker bwysigrwydd cydbwyso cyrhaeddiad ehangach darlledu gwasanaeth cyhoeddus a chynhyrchu refeniw.

Dywedodd wrth gyfarfod y pwyllgor ar Chwefror 1 na fydd Undeb Rygbi Cymru o reidrwydd yn cefnogi’r cynigiwr uchaf pan fydd yr hawliau’n mynd ar y farchnad yn 2024.

‘Rhybudd’

Wrth ymateb i bryderon y gallai cyfranogiad mewn rygbi adlewyrchu’r gostyngiad a fu gyda chriced os nad yw’r gamp yn cael ei darlledu am ddim, dywed Nigel Walker y byddai hynny’n rhan o’r hafaliad.

Cytuna fod yr hyn sydd wedi digwydd gyda chriced yn arwydd rhybudd.

“Os, ac mae’n ‘os’ 20-troedfedd, bod penderfyniad yn cael ei wneud i fynd at ddarlledwr talu-wrth-wylio, yn ogystal a’r uchafbwyntiau ar deledu daearol a fyddai’n un peth allweddol, byddai’n rhaid hefyd ystyried y ffordd mae pobol ifanc yn ymgysylltu gyda chwaraeon,” meddai.

Wrth gael ei holi am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, dywedodd Nigel Walker fod Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu sicrhau bod yr arlwy yno bob amser, boed drwy S4C neu’r botwm coch.

Dywed Abi Tierney fod yn rhaid i Undeb Rygbi Cymru feddwl yn llawer mwy creadigol am sut i fuddsoddi mewn adrodd straeon a chreu modelau rôl.

Tynnodd sylw at enghraifft y rhaglen Full Contact am y Chwe Gwlad ar Netflix y llynedd, gan ddweud mai dyna sut mae cenedlaethau iau yn dewis ymgysylltu â chwaraeon.

Fforddiadwyedd

Wrth gael ei holi am bryderon na fydd tafarndai a chlybiau lleol yn gallu fforddio dangos gemau, dywedodd Abi Tierney y bydd fforddiadwyedd yn rhan o’r ystyriaeth.

“Mae angen i ni gael yr arian i fuddsoddi mewn rygbi ar bob lefel a dyna beth rydyn ni wir eisiau ei gyflawni drwy’r broses hon,” meddai wrth y pwyllgor.

Dywed Nigel Walker nad yw Undeb Rygbi Cymru yn dadlau mai’r peth gorau i rygbi yw symud y tu ôl i wal dalu, ond y byddai tynnu’r opsiwn oddi ar y bwrdd yn effeithio ar werth yr hawliau darlledu.

Pan gafodd ei holi a yw Undeb Rygbi Cymru yn or-ddibynnol ar incwm hawliau, rhybuddiodd Abi Tierney fod y cyllid yn anghynaladwy ac y bydd amrywio ffrydiau refeniw yn rhan bwysig o’r strategaeth.

O ran rôl CVC, cronfa sy’n berchen ar gyfran o 14% yn rygbi’r Chwe Gwlad, dywed Abi Tierney fod y cwmni’n cael ei gynrychioli ar y bwrdd ac y bydd yn rhan o’r sgwrs.

Dywed Nigel Walker fod CVC yn deall pwysigrwydd tyfu’r gêm.

“Dydyn nhw ddim yn cymryd rhan er budd tymor byr, dydw i heb weld unrhyw dystiolaeth o hynny,” pwysleisia.

 

Dangos holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar S4C

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno, Lauren Jenkins yn gohebu, a Gareth Charles a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu