Roedd siom i’r Cymro Gerwyn Price ar noson agoriadol Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC yng Nghaerdydd, wrth iddo fe golli o 6-2 yn erbyn y Sais Michael Smith yn y rownd derfynol.

Fe wnaeth Smith guro’r Iseldirwr Michael van Gerwen a’r Sais ifanc Luke Littler ar ei ffordd i’r ffeinal, ond cael a chael oedd hi yn y ddwy gêm honno, gyda buddugoliaethau o 6-5 yn y ddwy.

Er i Price fynd ar y blaen o 1-0 yn y rownd derfynol, tarodd Smith yn ôl i’w gwneud hi’n 3-1, cyn taflu 120 a 107 i fynd o fewn un gêm i’r fuddugoliaeth.

Bu’n rhaid i Smith aros wrth i Price leihau ei fantais rywfaint, ond taflodd y Sais ei bumed 180 cyn gorffen y gêm dyngedfennol ag 13 dart.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gan Gerwyn Price driphwynt ar ôl y noson gyntaf, gyda buddugoliaethau dros Nathan Aspinall (6-4) a Rob Cross (6-2) yn y rowndiau blaenorol.

Bydd ail noson y gynghrair yn cael ei chynnal yn Berlin nos Iau nesaf (Chwefror 8).

‘Does dim teimlad gwell’

Yn y cyfamser, mae Jonny Clayton wedi mynegi ei siom na chafodd e chwarae yn yr Uwch Gynghrair eleni.

“Does dim teimlad gwell na chwarae gerbron torf gartref,” meddai’r Cymro Cymraeg o Bontyberem.

“Mae colli allan ar le yn yr Uwch Gynghrair ond yn gwneud i fi fod eisiau gweithio’n galetach i ddychwelyd yno.

“Pob lwc i bob un o’r wyth chwaraewr eleni.”

 


Canlyniadau’r noson

Rownd yr wyth olaf:

Rob Cross 6-3 Peter Wright

Gerwyn Price 6-4 Nathan Aspinall

Michael Smith 6-5 Michael van Gerwen

Luke Littler 6-2 Luke Humphries

 

Y rownd gyn-derfynol

Gerwyn Price 6-2 Rob Cross

Michael Smith 6-5 Luke Littler

 

Y rownd derfynol

Michael Smith 6-2 Gerwyn Price