Fe wnaeth dau o chwaraewyr amlycaf tîm pêl-droed Cymru symud ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ddoe (dydd Iau, Chwefror 1).

Mae Ipswich wedi denu’r ymosodwr Kieffer Moore ar fenthyg o Bournemouth, tra bod Connor Roberts wedi mynd ar fenthyg i Leeds o Burnley – y ddau tan ddiwedd y tymor.

Treuliodd Moore gyfnod gydag Ipswich yn 2017-18, gan chwarae unarddeg o weithiau.

Ymunodd e â Bournemouth yn 2022, ond dim ond unwaith mae e wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn, a hynny fel eilydd.

Enillodd Connor Roberts ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda Burnley y tymor diwethaf wrth iddyn nhw godi tlws y Bencampwriaeth, a chafodd ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth a Thîm y Flwyddyn y PFA.

Mae e wedi chwarae 16 o weithiau y tymor hwn, a hynny fel cefnwr de a chwith.

Mae’n ymuno â thri Chymro arall yn Leeds – Dan James, Joe Rodon ac Ethan Ampadu.

Ond gyda gêm fawr ar y gorwel i Gymru ym mis Mawrth, wrth iddyn nhw herio’r Ffindir am le yn yr Ewros, doedd y golwr Danny Ward ddim wedi gallu dod o hyd i glwb newydd, ac yntau wedi’i gau allan yng Nghaerlŷr ar hyn o bryd.

Caerdydd

Fe fu’n gyfnod rhwystredig yn ariannol i Gaerdydd, ar ôl iddyn nhw gael eu gwahardd rhag prynu am dair ffenest.

Cafodd y gwaharddiad ei leihau i ddwy ffenest haf diwethaf, ac roedden nhw wedi prynu’r chwaraewr canol cae David Turnbull o Celtic a’r golwr Ethan Horvath o Nottingham Forest.

Fe fu’r Adar Gleision hefyd yn cwrso Kieffer Moore cyn iddo fe ymuno ag Ipswich.

Abertawe

Byddai rhyddhad wedi’i deimlo yn Abertawe, wrth iddyn nhw osgoi colli chwaraewyr allweddol, fel sydd wedi digwydd mewn ffenestri blaenorol.

Llwyddon nhw i ddenu’r ymosodwr ifanc Charles Sagoe Jr ar fenthyg o Arsenal, a’r asgellwr Przemysław Płacheta o Norwich ar ôl i’r chwaraewr o Wlad Pwyl ddirwyn ei gytundeb i ben.

Roedd yr Elyrch yn gobeithio denu’r chwaraewr canol cae 21 oed Connor Barron, ond mae’n debyg y byddan nhw’n parhau i’w gwrso yn yr haf pan fydd ei gytundeb yn Aberdeen yn dod i ben.

Wrth i’r Elyrch geisio lleihau eu costau, mae’r cefnwr Kristian Pedersen wedi mynd ar fenthyg i Sheffield Wednesday tan ddiwedd y tymor.

Wrecsam

Denodd Wrecsam yr amddiffynnwr Luke Bolton o Salford a’r ymosodwr Jack Marriott o Fleetwood cyn i’r ffenest gau.

Mae Marriott wedi llofnodi cytundeb tan 2025, tra bydd cytundeb Bolton yn dod i ben yn 2026.

Casnewydd

Mae Nathan Wood, chwaraewr canol cae Casnewydd, wedi ymuno â Cork ar fenthyg am weddill y tymor hwn.

Dim ond tair gwaith mae e wedi dechrau gêm yn yr Ail Adran, gan sgorio un gôl mewn 18 o gemau i gyd.

Ymunodd e â Chasnewydd o Benybont yn y Cymru Premier.