Mae tîm rygbi’r Alban wedi gwneud tro pedol ac wedi gofyn am gael cau to Stadiwm Principality ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fory (dydd Sadwrn, Chwefror 3).

Yn ôl eu hawl, gofynnodd yr ymwelwyr am gael cadw’r to ar agor, er mawr “siom” i Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru, sy’n dweud bod cau’r to yn creu gwell awyrgylch.

Dywed y dylai Cymru gael dewis, gan mai nhw yw’r tîm cartref.

Er mwyn cau’r to, mae’n rhaid i’r ddau dîm gytuno, ac mae Cymru wedi derbyn y cais, gyda glaw ar y gorwel.

Dydy’r Alban ddim wedi curo Cymru yng Nghaerdydd ers 22 o flynyddoedd.