Mae Clwb Rygbi Cefneithin wedi talu teyrnged i’r “Brenin” Barry John, yn dilyn ei farwolaeth yn 79 oed.

Bu farw yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, ac mae’n gadael gwraig, pedwar o blant ac unarddeg o wyrion.

Daeth y cyntaf o’i 25 o gapiau dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1966, ac fe chwaraeodd e bum gwaith i’r Llewod.

Chwaraeodd e â Gareth Edwards ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol.

Enillodd e Bencampwriaeth y Pum Gwlad dair gwaith, y Gamp Lawn unwaith a’r Goron Driphlyg ddwywaith.

Ond daeth ei awr fawr i’r Llewod yn erbyn Seland Newydd yn 1971, wrth iddyn nhw guro’r Crysau Duon o 2-1. Ar y daith honno y cafodd ei “goroni” yn Frenin.

Enillodd Cymru’r Gamp Lawn y flwyddyn honno hefyd, a hynny am y tro cyntaf ers 1952, gan guro Ffrainc ar eu tomen eu hunain am y tro cyntaf ers 14 o flynyddoedd hefyd.

Fe wnaeth e ymddeol y flwyddyn ganlynol, ac yntau ond yn 27 oed.

Sgoriodd e gyfanswm o 120 o bwyntiau dros Gymru a’r Llewod mewn 30 o gemau.

Teyrngedau

“Gyda chalon drom rydyn ni’n adrodd am golli ein ‘Brenin’ ein hunain, Barry John,” meddai Clwb Rygbi Cefneithin, ei glwb lleol, ar X (Twitter gynt).

“Wedi’i eni a’i fagu yn y pentref, aeth Barry yn ei flaen i gyflawni mawredd ar y cae rygbi, yn ogystal â gwasanaethu fel llywydd y clwb.

“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda ffrindiau a theulu Barry.”

Dywed Undeb Rygbi Cymru fod “rygbi Cymru wedi colli un o’i sêr disgleiriaf erioed wrth i’r maswr chwedlonol Barry John farw yn 79 oed”.

Yn ôl Jonathan Davies, dylid cynnal munud o dawelwch yn Twickenham yr wythnos nesaf er cof amdano.

“Byddai’n arwydd anhygoel [o barch] at chwaraewr oedd yn trosesgyn y gamp.”

Yn ôl y Llewod, “ysbrydolodd Barry gynifer, ac fe fydd yn cael ei gofio am byth am faint roddodd e i’r gamp”.

Dywed y Scarlets fod colli Barry John yn “newyddion trist iawn”.

“Mae ein meddyliau ni gyd gyda theulu a ffrindiau Barry, a phawb yng Nghaerdydd yn ystod yr adeg drist yma.”

“Hir oes i’r Brenin,” meddai Clwb Rygbi Caerdydd.

“Un o’r chwaraewyr gorau i dynnu’r crys Glas a Du amdano, ac am bartneriaeth ranodd e â Syr Gareth [Edwards].

“Eicon llwyr yng Nghlwb Rygbi Caerdydd, Cymru a’r Llewod y bydd colled fawr ar ei ôl.”