Bydd Barry John, sydd wedi marw’n 79 oed, yn cael ei gofio fel “un o’r goreuon, os nad y gorau erioed”, yn ôl y sylwebydd Gareth Charles.
Bu farw’r “Brenin” yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, ac mae’n gadael gwraig, pedwar o blant ac unarddeg o wyrion.
Daeth y cyntaf o’i 25 o gapiau dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 1966, ac fe chwaraeodd e bum gwaith i’r Llewod.
Chwaraeodd e â Gareth Edwards ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol, ac fe ddaeth y bartneriaeth honno’n un o’r cyfuniadau enwocaf yn y byd rygbi a chwaraeon yn y 1970au.
Enillodd e Bencampwriaeth y Pum Gwlad dair gwaith, y Gamp Lawn unwaith a’r Goron Driphlyg ddwywaith.
Ond daeth ei awr fawr i’r Llewod yn erbyn Seland Newydd yn 1971, wrth iddyn nhw guro’r Crysau Duon o 2-1. Ar y daith honno y cafodd ei “goroni” yn Frenin.
Enillodd Cymru’r Gamp Lawn y flwyddyn honno hefyd, a hynny am y tro cyntaf ers 1952, gan guro Ffrainc ar eu tomen eu hunain am y tro cyntaf ers 14 o flynyddoedd hefyd.
Fe wnaeth e ymddeol y flwyddyn ganlynol, ac yntau ond yn 27 oed – rhywbeth oedd wedi synnu ei bartner o fewnwr Gareth Edwards, ynghyd â gweddill y byd rygbi ar y pryd.
Sgoriodd e gyfanswm o 120 o bwyntiau dros Gymru a’r Llewod mewn 30 o gemau.
‘Superstar cynta’r byd rygbi’
Yn ôl Gareth Charles, mae “tair B” yn dod i feddwl wrth sôn am y 1960au – y Beatles, George Best a Barry John.
“Bydd Barry John yn cael ei gofio, yn berffaith gywir, fel un o’r goreuon – os nad y gorau erioed,” meddai wrth golwg360.
“Wnaeth e oleuo’r byd rygbi a fe, efallai, oedd y superstar cyntaf yn y byd rygbi.
“I grwtyn o’r 60au, y tair ‘B’ oedd yr arwyr ar y pryd, sef y Beatles, Best a Barry, a fi’n credu bod y ffaith fod e wedi bod yn gyfeillgar gyda George Best yn dweud lot – bod y ddau ohonyn nhw, yn eu ffyrdd eu hunain, yn athrylith a bo ni heb weld digon ohonyn nhw, a’r ddau yn dod â’u gyrfa i ben yn gynnar am ba reswm bynnag.
“I fi, gan bo fi o Bonthenri a fe o Gefneithin, yn Ysgol y Gwendraeth roedd e’n un o’r ychydig rai oedd wedi cael cap bryd hynny, ac roedd ei lun e lan yn yr ysgol, ac roeddwn i’n ei weld e bob dydd.
“Felly, roedd e’n un o’n arwyr cyntaf i ac yn rywun oedd wedi gosod y bar o ran sgiliau maswr, nage jyst gyda Chymru ond y Llewod hefyd, ac roedd e wedi gwneud ei farc ar draws y byd rygbi.”
Partneriaeth gyda Gareth Edwards
Y dyfyniad amlycaf sy’n dod i feddwl wrth drafod y bartneriaeth rhwng y mewnwr Gareth Edwards a’r maswr Barry John yw “twla di fe, ddala i fe”, sydd efallai’n arwydd o’r hyder oedd gan y maswr pan oedd y mewnwr yn wynebu cyfnod ansicr.
“Doedd dim byd yn ormod i Barry,” meddai Gareth Charles.
“Mae [y dyfyniad] yn crynhoi Barry i’r dim, achos doedd e ddim yn gor-gymhlethu pethau, ond eto i gyd roedd lefel sgil anhygoel gyda fe.
“Roedd e’n gwneud i bopeth edrych yn rhwydd iawn, ond eto i gyd roedd ei feddwl e fel computer, yn gallu gweld y bylchau a lle roedd y bêl yn mynd i fynd fel bod e yn y man iawn ar yr adeg iawn i gael manteisio’n llwyr.
“Ddim bod gyda fe’r gallu i ochrgamu fel Gerald [Davies] neu Shane [Williams] yn ddiweddarach, ond roedd gyda fe’r gallu yma i gael symud ei ysgwyddau neu ei gliniau a fyddai pobol ddim yn gallu’i gyffwrdd e.
“Yn y 1960au a’r 70au, pan doedd y caeau ddim ar eu gorau, yn drwm neu’n fwdlyd, doedd e ddim yn rhedeg trwy’r mwd, ond roedd hi fel tasai e’n rhedeg ar ben wyneb, yn arnofio ar wyneb y cae, yn gallu symud mor rhwydd.
“Rhywbeth sy’n wir farc o safon: roedd e’n gallu creu cymaint o amser a gwneud i bopeth edrych mor rwydd, er efallai doedden nhw ddim mewn gwirionedd.”
Barry John ‘ddim yn yr un mowld â maswyr eraill’
Tra bod maswyr Cymru, o Dai Watkins i Phil Bennett, ar y cyfan yn dueddol o chwarae yn yr un arddull, roedd gan Barry John ei ffordd unigryw ei hun o chwarae, yn ôl Gareth Charles.
“Dai Watkins oedd e lan yn ei erbyn e ar y pryd, ac roedd Dai yn y mowld, ac roedd Phil Bennett ddaeth ar ôl Barry yn yr un mowld hefyd – y rhai bach yn ochrgamu,” meddai.
“Ond roedd Barry lot mwy gosgeiddig, os lici di, yn dal ei hunan fel tase fe ddim yn edrych yn gyflym ond mi oedd e.
“Roedd e’n gallu cyfro’r tir mor rwydd, rhywun oedd yn dalach na Dai neu Benny, a doedd yr elfen yna o fynd dros y tir mor rwydd ddim yn draddodiad yng Nghymru, ond fe wnaeth e dorri ei gwys ei hunan fel maswr.”
‘Y Brenin’
Cafodd Barry John y ffugenw ‘Y Brenin’ ar ôl taith lwyddiannus y Llewod i Seland Newydd yn 1971, lle enillon nhw’r gyfres o 2-1 – y fuddugoliaeth gyntaf erioed yn y wlad.
Os mai Barry John oedd y ‘Brenin’, yna Phil Bennett oedd y ‘Tywysog’, yn ôl y sylwebydd.
“Fe newidiodd Barry sut oedd rygbi’n cael ei chwarae, i raddau, achos fe wnaeth e agor llygaid Seland Newydd,” meddai.
“Doedden nhw erioed wedi gweld dim byd tebyg, ac mae’r ffaith fod e wedi sgorio 30 ma’s o’r 48 pwynt sgoriodd y Llewod yn y gemau prawf i ennill y gyfres yn dweud lot, a chymaint o ddylanwad oedd e.
“Roedd e’n giciwr arbennig ma’s o’i law, a hefyd golau adlam – roedd e wastad yn mynd am golau adlam a chafodd e sawl un i Gymru ac i’r Llewod, ac roedd e’n gwybod pa mor bwysig oedden nhw.
“Nage jyst y ddewiniaeth yma wrth redeg, ond gwerthfawrogiad o wneud beth oedd eisiau ei wneud pan oedd eisiau ei wneud e.
“Hyd yn oed Graham Henry, pan ddaeth e draw yma, roedd e’n dweud bod y Llewod a Barry wedi bod yn ddylanwad mawr arno fe i werthfawrogi rygbi ac i’w arwain e i mewn i hyfforddi yn y pen draw.
“Mae cael rhywun o Seland Newydd, lle mae rygbi mor bwysig iddyn nhw, i alw rhywun o Gymru yn ‘Frenin’ yn adrodd cyfrolau am ba mor dda oedd Barry, a chymaint roedd e’n cael ei werthfawrogi ar draws y byd rygbi.”
‘Crwtyn o Gefneithin oedd e tan y diwedd’
Ond daw popeth da i ben yn hwyr neu’n hwyrach, ac fe wnaeth Barry John ymddeol yn 27 oed â blynyddoedd gorau ei yrfa yn dal i ddod, efallai.
Ond yn ôl Gareth Charles, doedd ei statws fel seren “ddim yn eistedd yn gyfforddus” gyda’r bachgen lleol o Sir Gaerfyrddin.
“Er mai fe oedd y superstar cyntaf erioed, dw i ddim yn meddwl bod hynny’n eistedd yn gyfforddus gyda Barry,” meddai.
“Yn y pen draw, crwtyn o Gefneithin oedd e tan y diwedd.
“Hyd yn oed yng Nghaerdydd, roedd e’n licio mynd ma’s a siarad gyda phobol gyffredin.
“Doedd e ddim eisiau i bobol wneud ffỳs ohono fe, a byddai e wrth ei fodd yn trafod rygbi gydag unrhyw un fyddai’n fodlon gwrando.
“Ond pan aeth pethau dros ben llestri a’i fod e’n cael cymaint o sylw a chael ei eilunaddoli, wnaeth e droi rownd a dweud, ‘nid dyma beth ‘yf fi eisiau ma’s o’r gêm, fi’n joio’r gêm, wrth fy modd ar y cae rygbi a siarad am rygbi gyda phobol, ond yr holl bethau eraill sy’n mynd gyda fe, nage dyna beth ‘yf fi’n mo’yn’.
“Wnaeth e gael ei weld wedyn yn dangos pa mor unigryw oedd Barry, yn gwybod beth oedd ei feddwl e, yn gwybod beth oedd e’n mo’yn gwneud fel chwaraewr ac fel person.
“Wnaeth e ddweud, ‘Fi’n mynd i gamu bant’ – er mawr syndod a rhyfeddod i bawb oedd yn dilyn rygbi.”
Yr Oes Aur: “Barry yw’r mwyaf ohonyn nhw i gyd”
Mae Phil Bennett, Dai Watkins a bellach Barry John wedi mynd, ac mae hynny’n arwydd fod y ‘Ffatri Maswyr’ gafodd ei hanfarwoli gan Max Boyce bellach wedi cau.
“Fi ddim yn siwr beth fyddai Max yn ei wneud o’r ffaith fod y Ffatri Maswyr wedi cau erbyn hyn yng Nghymru!” meddai Gareth Charles.
Yn fwy na hynny, gyda cholli JPR Williams, Phil Bennett, Clive Rowlands, John Dawes a sawl un arall dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o genhedlaeth yr ‘Oes Aur’ bellach wedi mynd.
“Dagrau pethau yw fod cymaint o’r cewri wnaeth sefydlu rygbi Cymru ar draws y byd wedi’n gadael ni.
“Dim ond mis sydd ers JPR, Benny cyn hynny, Clive a’i gyfraniad e cyn hynny, John Dawes, yn ôl at Grav, JJ… Mae cymaint ohonyn nhw wedi cael eu colli.
“Ond fi’n credu taw Barry yw’r mwyaf ohonyn nhw i gyd, ac yn sicr y cyntaf i wneud ei farc ar y lefel ryngwladol fel wnaeth e.
“Does dim rhyfedd bod Max a phobol eraill wedi bod yn canu ac yn ysgrifennu englynion a phethau felly amdano fe.”
Dangos i’r to iau “beth sy’n bosib ar y cae rygbi”
Gyda rygbi yng Nghymru ar groesffordd ar hyn o bryd, gyda sawl chwaraewr blaenllaw wedi ymddeol eleni, dywed Gareth Charles y gallai’r genhedlaeth ifanc newydd ddysgu tipyn gan Barry John.
“Mae’n neis i weld gwerthfawrogiad fod y bois ifainc yma, oedd ddim ambwyti i’w weld e’n chwarae ar y pryd ond sydd wedi gweld y fideos ohono fe, yn gallu gwerthfawrogi beth oedd e’n gallu gwneud,” meddai.
“Er bod y gêm wedi newid – yn amlwg, roedd pobol fel Jonathan [Davies] yn ei nabod e ac wedi cwrdd â fe – mae pobol fel Sam Warburton wedi bod yn talu teyrnged iddo fe, a bois sydd yn chwarae rygbi y dyddiau yma heb ei weld e mewn person yn gallu gwerthfawrogi gymaint oedd e’n gwneud – a gobeithio yn gallu dysgu hefyd beth sy’n bosib ar y cae rygbi.”