Dan Cherry yw Prif Weithredwr newydd Clwb Criced Morgannwg, ac mae’n olynu Hugh Morris, sydd wedi ymddeol.

Bu’n cwblhau’r rôl dros dro ers i Hugh Morris gyhoeddi ei ymddeoliad ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Chwaraeodd y gŵr 43 oed mewn 65 o gemau i’r sir, a bu’n Bennaeth Gweithrediadau’r clwb ers 2012.

Bu’n allweddol wrth arwain y gwaith o ailddatblygu Gerddi Sophia yn stadiwm ryngwladol yn 2008, a bu hefyd yn gyfrifol am arwain ar weithrediadau nifer o ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys dwy gêm brawf yng Nghyfres y Lludw a nifer o gemau yn ystod Cwpan y Byd 2019, yn ogystal â chyngherddau a chynadleddau mawr.

‘Cefnogaeth unfrydol y Bwrdd’

Yn ôl Mark Rhydderch-Roberts, cadeirydd Morgannwg, mae gan Dan Cherry “gefnogaeth unfrydol y Bwrdd” wrth ddechrau yn y swydd.

“Bu Dan yn rhan hanfodol o Glwb Criced Morgannwg ers dros ugain mlynedd, fel chwaraewr ac fel gweinyddwr,” meddai.

“Mae ganddo fe gefnogaeth unfrydol y Bwrdd, ac mae ei sgiliau a’i allu’n cael eu cydnabod a’u parchu gan ein haelodau, ein noddwyr, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid, ynghyd â’n chwaraewyr, ein hyfforddwyr a’n staff.

“Yn dilyn penderfyniad Hugh Morris i ymddeol, fe wnaeth y Bwrdd ystyried yn ofalus wrth benodi Prif Weithredwr.

“Ein polisi arferol yng Nghlwb Criced Morgannwg yw cynnal chwiliadau allanol wrth recriwtio.

“Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth i’r ffaith fod Dan yn ymgeisydd rhagorol, a phenderfynwyd peidio chwilio’n allanol.

“Yn ystod ei gyfnod yn Brif Weithredwr dros dro, fe ddaeth â phrofiad a sefydlogrwydd i’r clwb ar adeg o newidiadau sylweddol yn weithredol ac yn ddiwylliannol.

“Mae newid cenhedlaeth yn bosib mewn criced dros y flwyddyn nesaf pe bai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), ar ran y siroedd dosbarth cyntaf, yn penderfynu croesawu buddsoddiad rhyngwladol i’r gamp drwy dwrnament y Can Pelen.

“Gyda pherthynas ardderchog Dan â’r ECB, a Gerddi Sophia yn lleoliad ar gyfer cynnal gemau’r Can Pelen ac yn ddeilydd rhyddfraint trwy’r Tân Cymreig, mae Clwb Criced Morgannwg mewn sefyllfa dda i elwa ar y datblygiad hwn.

“Yn yr amgylchfyd hwn sy’n newid yn gyflym, mae’n hanfodol fod gan ein Tîm Rheoli Uwch, ein Prif Weithredwr a’n Bwrdd y sgiliau a’r gallu angenrheidiol i ateb yr heriau hyn ac i wneud y mwyaf o’r deilliannau ar gyfer Morgannwg ar y cae ac oddi arno, a dw i’n hyderus iawn ein bod ni mewn sefyllfa dda i wneud hynny.

“Mae penodiad Dan, a phenodiad diweddar Grant Bradburn yn brif hyfforddwr newydd, yn tanlinellu Morgannwg hyderus, allblyg sy’n canolbwyntio ar lwyddiant ar y cae ac oddi arno.”

‘Anrhydedd enfawr’

“Mae’n anrhydedd enfawr cael cais i arwain Clwb Criced Morgannwg,” meddai Dan Cherry.

“Mae Morgannwg yn fy nghalon, ac fe fu’n rhan enfawr o’m bywyd ers dros ugain mlynedd, a dw i’n hyderus gyda’r tîm ardderchog o’m cwmpas y gallwn ni wireddu potensial y clwb gwych hwn.

“Dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â’n Bwrdd, ein haelodau a’n holl randdeiliaid wrth i ni geisio symud y clwb yn ei flaen yn ystod yr hyn sy’n adeg gyffrous i griced.”