Mae’r prop pen tynn Dillon Lewis a’r chwaraewr rheng ôl Seb Davies wedi’u galw i ymuno â charfan rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae James Botham wedi gadael y garfan o ganlyniad i anaf i’w ben-glin.

Dioddefodd e’r anaf yn ystod y golled o 27-26 yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn (Chwefror 3).

Bydd yn parhau gyda’i adferiad gyda’i glwb.

Cap cyntaf i Cameron Winnett wrth i Gymru herio’r Alban

Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad