Bydd y cefnwr Cameron Winnett yn ennill ei gap cyntaf dros dîm rygbi Cymru, wrth iddyn nhw herio’r Alban yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd nos Sadwrn (Chwefror 3).

Mae’r holl docynnau ar gyfer y gêm wedi’u gwerthu, ond bydd hi’n cael ei darlledu’n fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 4.45yh.

Rio Dyer a Josh Adams sydd wedi’u henwi ar yr esgyll.

Bydd Dafydd Jenkins, sy’n 21 mlwydd a 60 niwrnod oed, yn arwain ei wlad – yr ail chwaraewr ieuengaf erioed ar ôl Gareth Edwards i dderbyn yr anrhydedd.

Bydd Adam Beard yn cadw cwmni i’r capten yn yr ail reng.

Bydd Owen Watkin yn chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf ers Tachwedd 2022, gan bartneru â Nick Tompkins yn y canol.

Bydd y prop Corey Domachowski yn dechrau yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf, ac yn ymuno â’r prop Leon Brown a’r bachwr Ryan Elias yn y rheng flaen.

Yn y rheng ôl, bydd James Botham yn dechrau dros ei wlad am y tro cyntaf ers dwy flynedd. Tommy Reffell fydd y blaen asgellwr agored ac Aaron Wainwright sydd wedi ei ddewis yn wythwr.

Haneri’r Scarlets Gareth Davies a Sam Costelow fydd yn dechrau’r ornest yn erbyn yr Albanwyr.

Er bod Costelow eisoes wedi ennill wyth cap dros ei wlad, dyma’r tro cyntaf iddo fe chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad.

Pe bai Alex Mann yn cael ei alw o’r fainc, bydd chwaraewr rheng ôl Caerdydd yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Fe gynrychiolodd Kemsley Mathias (prop pen rhydd), Keiron Assiratti (prop pen tynn) a Teddy Williams (clo) eu gwlad am y tro cyntaf yn ystod Cyfres Haf Vodafone 2023.

Yn ystod Hydref 2020 yr enillodd Ioan Lloyd ei gap cyntaf.

Dydy’r un ohonyn nhw wedi chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn.

Elliot Dee fydd yr eilydd o fachwr, gyda Tomos Williams a Mason Grady yn debygol iawn o chwarae eu rhan hefyd y tu ôl i’r pac.

Does dim lle i George North, sy’n gwella o anaf i’w ysgwydd, ac mae gwraig Will Rowlands wedi cael babi’n ddiweddar.

Canu clodydd Cameron Winnett

“Mae gan Cameron Winnett sgiliau hyfryd a dw i’n credu y bydd yn datblygu i fod yn dipyn o chwaraewr ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Warren Gatland.

“Mae’n ifanc, wrth gwrs, ac felly fydd dim pwysau arno fe.

“Mae e wedi ymarfer yn arbennig o dda ers ymuno â’r garfan, a dw i’n falch o’i gynnwys yn y tîm.

“Mae’n braf gallu dewis Alex Mann ar y fainc – a gobeithio y caiff ei gyfle fe i ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn hefyd.

“Rwy’n credu bod cydbwysedd da yn y garfan yma.

“Mae gennym ni chwaraewyr profiadol sydd wedi chwarae yng Nghwpan y Byd a rhai ifanc addawol hefyd.”

Y to ar agor

Bydd y to ar agor ar gyfer y gêm yn unol â dymuniad yr Alban, ac mae Warren Gatland yn credu y bydd hynny’n cael cryn effaith ar y gêm.

“Dyw’r Alban heb ennill ar ein tomen ni ers tipyn o amser, ac mae hwn yn gyfle i ni ymestyn y record honno,” meddai.

“Bydd y to ar agor gan mai dyna ddymuniad yr Albanwyr yn anffodus.

“Dw i’n credu y gall hynny amharu ar yr awyrgylch, oherwydd pan fo’r to ar gau mae’r sŵn yn y stadiwm yn syfrdanol. Ond dyna’r penderfyniad maen nhw wedi’i wneud.

“Mae’r garfan yn deall pa mor bwysig yw’r gêm agoriadol yma. Mae pob tocyn wedi ei werthu, felly mae’n bwysig bod y chwaraewyr yn gwneud eu gorau, dechrau’r bencampwriaeth yn dda a chreu momentwm ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.

“Mae eu hagwedd wedi fy mhlesio’n fawr wrth ymarfer yr wythnos hon ac mae gennym ni reswm da dros deimlo’n gyffrous wrth edrych ymlaen at y gêm.”

Tîm Cymru

15. C Winnett, 14. J Adams, 13. O Watkin, 12. N Tompkins, 11. R Dyer, 10. S Costelow, 9. G. Davies; 1. C. Domachowski, 2. R. Elias, 3. L. Brown, 4. D. Jenkins (capten), 5. A. Beard, 6. J. Botham, 7. T Reffell, 8. A Wainwright

Eilyddion

16. E Dee, 17. K Mathias, 18. K Assiratti, 19. Teddy Williams, 20. A Mann, 21. Tomos Williams, 22. I Lloyd, 23. M Grady.

Tîm yr Alban